Mater - penderfyniadau

Recruitment of Independent Members to the Standards Committee

10/06/2021 - Recruitment of Independent Members to the Standards Committee

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i gytuno ar yr amserlen a’r broses ar gyfer recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau. Dywedodd fod y cyfnod mewn swydd ar gyfer un o Aelodau cyfetholedig y Pwyllgor yn dod i ben ym mis Mawrth 2021 ac oherwydd bod yr aelod wedi cyrraedd uchafswm y cyfnodau gwasanaeth a ganiateir dan y ddeddfwriaeth mae’n rhaid iddo ymddiswyddo. Dywedodd fod Aelod Annibynnol arall wedi penderfynu ymddeol. Roedd y ddau aelod cyfetholedig wedi bod yn aelodau gweithgar o’r Pwyllgor Safonau ac roeddent wedi gwneud cyfraniad sylweddol i lywodraethiant y Cyngor.

 

Esboniodd y Prif Swyddog y byddai’n rhaid i’r Cyngor hysbysebu dwy swydd wag ac i wneud hynny roedd rhaid rhoi hysbysebion yn y wasg leol a ffurfio panel cyfweld (fel yr awgrymwyd yn yr adroddiad).  Fe allai cyfweliadau gael eu cynnal tua diwedd mis Chwefror / mis Mawrth ac yna byddai’r ymgeisydd a ffefrir yn cael ei benodi’n swyddogol gan y Cyngor (o bosib ar 1 Ebrill 2021). 

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Johnson yr argymhellion a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Mike Peers.       

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau a oedd yn ymddeol am eu gwaith a’u cyfraniadau rhagorol. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n ysgrifennu at y ddau aelod i gofnodi diolch a dymuniadau gorau’r Cadeirydd yn ffurfiol.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad a sefydlu panel penodi ffurfiol gyda’r aelodaeth fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad.