Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)

11/06/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol.  Cyfeiriodd at yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd yn cael ei gynnal ar 19 Mai 2021 gan egluro y byddid yn adrodd ar yr eitem ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, y rhestrwyd ar gyfer ei ystyried, i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn hytrach.  Nid oedd unrhyw newidiadau eraill i’r Flaenraglen Waith fel yr adroddwyd ar hynny yn y cyfarfod diwethaf.  Dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo ar amserlennu cyfarfodydd o Fedi 2021 ymlaen ac y byddid yn cyflwyno dyddiadur drafft i gyfarfod blynyddol y Cyngor Sir ar 11 Mai ar gyfer ei gymeradwyo.

 

                        Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad tracio gweithgareddau a atodwyd i’r adroddiad.    Dywedodd bod y gweithgaredd unigol a gododd o’r cyfarfod diwethaf wedi cael ei gwblhau ac yr ychwanegwyd diweddariad ar y System Rhestrydd Adnoddau Deinamig (DRS) i’r Blaengynllun Gwaith fel eitem i’w ystyried gan y Pwyllgor i’r dyfodol.  

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad er mwyn darparu manylion ar y broses dyrannu tai i Aelodau.  Dywedodd Y Cynghorydd Dave Hughes ei fod wedi gofyn am gyflwyniad ar bolisi SARTH a’r polisi dyrannu er mwyn diweddaru’r holl Aelodau, a rhoddodd sicrwydd y byddai hynny yn digwydd.   Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal i ddarparu sesiwn friffio i’r Pwyllgor cyn dechrau cyfarfod yn y dyfodol er mwyn rhoi trosolwg ar sut yr oedd y polisi SARTH yn gweithio, a mwy o eglurder ar y broses ddyrannu.

 

Cynigiwyd yr argymhellion ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorwyd Ron Davies a Dennis Hutchinson

 

PENDERFYNWYD:

 

(A)   Nodi’r Blaenraglen Waith;

 

(B)   Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, fel bo’r angen yn codi; a

 

(C)   Nodi’r cynnydd a wneir o ran cwblhau’r camau sydd ar ôl i’w cwblhau.