Mater - penderfyniadau
Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures
04/06/2021 - Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i gyflwyno crynodeb o berfformiad canol blwyddyn sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.
Tynnodd y Prif Swyddog sylw’r Pwyllgor at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y sefyllfa o argyfwng, ac maent wedi ateb yr her wrth ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ymgysylltu â phobl ifanc. Fe ddywedodd hefyd bod y swydd Cydlynydd Addysg wedi cael ei llenwi ac y byddai hyn yn rhoi mwy o gapasiti i weithio gyda phobl ifanc wrth ariannu llwybrau priodol at addysg a gwaith.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â’r nifer o ddarparwyr gofal plant, rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd am y nifer o ddarparwyr gofal plant yn Sir y Fflint ac amlinellodd y cynllun grant sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan y Cyngor i ddarparwyr gofal plant yn ystod y sefyllfa o argyfwng.
Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan Mrs Lynn Bartlett.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.