Mater - penderfyniadau

School Balances

11/01/2021 - School Reserve Balances Year Ending 31 March 2020 and Protocol for Schools In Financial Difficulty

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) falansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 a’r protocol ar gyfer ysgolion ag anawsterau ariannol.  Roedd y pwysau ar gyllidebau ysgolion yn parhau ac roedd hynny'n cael ei ddangos yn y gostyngiad yng nghronfeydd wrth gefn yr ysgolion. Dangosir y dadansoddiad o’r balansau wrth gefn ar gyfer pob ysgol yn Sir y Fflint ar ddiwedd Mawrth 2020 yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

            Roedd cyllidebau ysgolion uwchradd yn parhau i fod dan bwysau arwyddocaol gyda nifer o ffactorau yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol bresennol fel y manylir yn adran 1.02 yr adroddiad. Yn y gorffennol, roedd balansau ysgolion cynradd wedi cynnal eu hunain yn dda er gwaethaf y pwysau parhaus gan fesurau cyni ac roedd hyn wedi gwrthbwyso sefyllfa ysgolion uwchradd a oedd yn gwaethygu. Rhagwelwyd y byddai niferoedd disgyblion cynradd yn gostwng a byddai hynny’n creu heriau i Benaethiaid Cynradd wrth reoli eu cyllidebau yn y dyfodol.

 

            Mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol sy’n gwaethygu i rai ysgolion uwchradd, datblygodd y Portffolio Addysg ac Ieuenctid Brotocol i Ysgolion ag Anawsterau Ariannol.  Cafodd hwn ei gadarnhau a'i ddosbarthu i ysgolion ym mis Hydref 2019 a darparodd fframwaith i ysgolion wneud cais i'r Awdurdod am ddiffygion trwyddedig. Roedd y Protocol hefyd yn darparu fframwaith i’r Cyngor roi lefel briodol o her a chefnogaeth i helpu ysgolion ag anawsterau ariannol osod cyllideb gytbwys. Cynhaliodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Sir y Fflint adolygiad cynghorol o’r Protocol ym mis Mawrth 2020 a byddai Archwiliad Mewnol llawn yn cael ei gynnal o’r broses diffygion trwyddedig yn 2020/21. Roedd manylion yr argymhellion i’r adolygiad cynghorol i’w gweld yn adran 1.06 yr adroddiad ac roedd gwaith yn parhau i fynd i’r afael â’r argymhellion, fel y dangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

            Soniodd y Cynghorydd Dave Mackie bod maint yr ysgolion yn ffactor fawr mewn perthynas â diffygion a dywedodd ei bod yn ymddangos mai ysgolion llai oedd yn wynebu'r problemau mwyaf gyda’u balansau. Dywedodd bod rhai ysgolion wedi rheoli eu cyllidebau yn llwyddiannus ac awgrymodd bod ysgolion a oedd yn wynebu heriau yn cadw mewn cysylltiad â’i gilydd er mwyn dod o hyd i atebion. Ei brif bryder oedd ysgolion bach a’r cyfle i’r Cyngor gymryd camau i gynorthwyo i leihau eu diffygion fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ac edrych ar atebion ehangach i’w cynorthwyo yn y dyfodol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, i’r Cynghorydd Mackie am ei sylwadau a soniodd am yr heriau i ysgolion llai a oedd yn gorfod parhau i ddarparu’r cwricwlwm a chefnogaeth fugeiliol. Sicrhaodd y Pwyllgor bod yr holl opsiynau'n cael eu hystyried i gefnogi ysgolion â diffygion a byddai cynigion yn cael eu cyflwyno yn fuan i fynd i'r afael â rhai o'r problemau gan gynnwys materion strwythurol y dylid mynd i'r afael â nhw.  Sicrhaodd y Pwyllgor hefyd, ynghyd â’r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog, bod yr ysgolion hynny â diffygion wedi cael her gadarn i ddeall yr heriau yn well.   

 

            Mewn ymateb i bryderon am ddiffygion trwyddedig, dywedodd y Prif Swyddog bod gan bob ysgol gyfrifoldeb i roi mynediad i ddysgwyr at gwricwlwm eang a chytbwys. Roedd pob ysgol yn wynebu costau sefydlog sylweddol ac roedd rhaglen moderneiddio ysgolion y Cyngor yn uchelgeisiol er mwyn darparu gwell amgylcheddau i ddysgwyr. Sicrhaodd y Rheolwr Cyllideb Strategol – Cyfrifeg a Chyllid Ysgolion y Pwyllgor bod swyddogion yn cydweithio’n agos ag ysgolion uwchradd â diffygion mawr ac nad oedd rheolaeth wael o gyllidebau yn ffactor.  Amlinellodd nad oedd adnoddau digonol ar gael a bod ysgolion â niferoedd disgyblion sy’n codi ar y trywydd iawn i weld eu diffygion yn gostwng. Roedd gwaith wedi cael ei wneud hefyd i nodi pa ysgolion cynradd a oedd yn wynebu pryderon â’u cyllidebau yn y dyfodol er mwyn darparu’r cymorth angenrheidiol a nodi pa newidiadau sydd angen eu gwneud.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r swyddogion am eu hymatebion a gofynnodd pa ymyraethau a oedd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol a p'un a fyddai hynny'n cael ei wneud i’r holl ysgolion ynteu ysgolion unigol yn unig. Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd pwynt chwilio am ddatrysiadau nad oeddent yn bodoli. Dywedodd bod ysgolion uwchradd yn flaenoriaeth a bod yn rhaid cynyddu cyllidebau refeniw blynyddol ysgolion uwchradd cyn y gallent ddelio â diffygion hanesyddol. Soniodd am y cyllid cyffredinol ar gyfer pob disgybl yng Nghymru a dywedodd nad oedd yr ysgolion ledled Sir y Fflint yn gwario digon ar bob disgybl yng Nhymru ond roedd hynny oherwydd bod y Cyngor yn cael ei danariannu.  Nid oedd yn fater o ysgwyddo costau ychwanegol yn gysylltiedig â thâl yn unig, roedd angen hefyd sicrhau dull gweithredu cynaliadwy o ymdrin â chyllidebau ysgolion wrth fynd ymlaen ac roedd hyn yn rhan o ddadleuon gyda LlC ar hyn o bryd. Dywedodd wrth y Pwyllgor y gallai ystyried argymhelliad ychwanegol ar ben y rheiny a restrir yn yr adroddiad, sef os oes cyllid digonol yn setliad cenedlaethol y Cyngor y dylai’r Cyngor anelu at roi blaenoriaeth i roi chwistrelliad o gyllid i mewn i gyllidebau ysgolion ar ben chwyddiant.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Mackie ei fod wedi cyfrifo, o’r wybodaeth yn yr adroddiad, mai’r swm a wariwyd ar gyfartaledd ar bob disgybl uwchradd oedd £4,527 ac roedd y Prif Weinidog wedi datgan mai’r swm a wariwyd ar gyfartaledd ar bob disgybl uwchradd yn Lloegr y llynedd oedd £5,000. Dywedodd bod hyn yn cefnogi sylwadau'r Prif Weithredwr yngl?n â bod y Cyngor yn cael ei danariannu.   

 

            Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag effaith y sefyllfa argyfyngus ar gyllidebau ysgolion, esboniodd y Prif Swyddog nad oedd effaith y sefyllfa argyfyngus yn cael ei ddangos yn yr adroddiad presennol gan ei fod yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf sef 2019-20.  Roedd LlC wedi sefydlu cronfa galedi a oedd yn darparu cymorth ariannol i ysgolion os oeddent yn gallu dangos bod gwariant ychwanegol yn ateb y meini prawf a osodwyd gan LlC. Soniodd y Rheolwr Cyllid am y broses i ysgolion sy’n hawlio cymorth ariannol trwy’r gronfa galedi a dywedodd bod y meini prawf wedi bod yn aneglur ar adegau. Esboniodd bod effaith ariannol y sefyllfa argyfyngus i ysgolion yn cael ei hasesu ac mai’r gobaith yw y byddai cau ysgolion dros dymhorau’r gwanwyn/haf yn gwrthbwyso rhai o’r costau ychwanegol.    

 

            Soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am y broses o osod cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 a dywedodd nad oedd unrhyw gynigion wedi cael eu cyflwyno i gynyddu trethi lleol er mwyn cefnogi ysgolion uwchradd i ymdrin â’u diffygion ariannol.  Dywedodd ei fod yn cytuno â’r Prif Weithredwr ei fod yn gobeithio y byddai’r datrysiadau yn dod gyda chymorth ariannol gwell gan LlC ond dywedodd mai’r Aelodau i gyd fyddai’n gyfrifol am benderfynu ynghylch cynyddu trethi lleol er mwyn darparu cymorth   Dywedodd bod gwasanaethau cyhoeddus da yn costio arian a bod y sefyllfa argyfyngus wedi dangos gwerth gwasanaethau cyhoeddus da. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am y cyfrifoldeb i gynnal offer cegin, esboniodd y Rheolwr Cyllid Strategol mai NEWydd oedd yn gyfrifol am hynny fel rhan o gytundeb lefel gwasanaeth rhyngddynt â'r ysgolion.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie yr argymhellion yn yr adroddiad, ynghyd â’r argymhelliad ychwanegol canlynol, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Connah:-

 

  • Os bydd y Cyngor yn derbyn cyllid ychwanegol fel rhan o'r setliad Llywodraeth Leol, yn ogystal â’r safonau gofynnol, mae'r Pwyllgor yn cefnogi darparu refeniw yn ystod y flwyddyn i gefnogi ysgolion â diffygion ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2020;

 

(b)       Nodi’r newidiadau i’r Protocol ar gyfer Ysgolion ag Anawsterau Ariannol; a

 

(c)        Os bydd y Cyngor yn derbyn cyllid ychwanegol fel rhan o'r setliad Llywodraeth Leol, yn ogystal â’r gofynion safonol, mae'r Pwyllgor yn cefnogi darparu refeniw yn ystod y flwyddyn i gefnogi ysgolion â diffygion ariannol.