Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (EY& C)
04/06/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fersiwn drafft y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gan ddweud na fu unrhyw newidiadau i’r eitemau sydd wedi’u rhestru ers y cyfarfod diwethaf. Roedd yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi cael eu cwblhau fel oedd i’w weld yn Atodiad 2 i’r adroddiad. Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad am y cyfarfod ar y cyd a gynhaliwyd rhwng swyddogion Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Cymdeithasol, lle cytunwyd y byddai adroddiad sy’n dod â staff iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i ddarparu asesiad dwys a chefnogaeth therapiwtig i bobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS, yn cael ei gyflwyno i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Iechyd a Chymdeithasol ar y cyd, oedd wedi’i drefnu ar gyfer 17 Mehefin 2021.
Gan ymateb i gwestiwn gan Mr. David Hytch, dywedodd yr Hwylusydd bod Bwrdd Cysgodol Theatr Clwyd wedi cyfarfod ar 18 Tachwedd er mwyn ystyried bod cynrychiolydd o’r Undeb Llafur yn aelod o’r Bwrdd. Cadarnhaodd Liam Evans-Ford nad oedd y Bwrdd wedi cytuno i symud ymlaen â hyn ar hyn o bryd ond byddent yn ail ystyried yr awgrym yn nes ymlaen.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.