Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (EY& C)

11/01/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf.   Yn unol â'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, wrth ystyried y Strategaeth Adfer, roedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi cael ei llenwi, fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.  O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at drafodaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 wrth drafod Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect Gweddnewid Plant.  Soniodd am yr amcan canlynol a amlygwyd yn yr adroddiad:-

 

  • Dod â staff gofal iechyd a chymdeithasol ynghyd i ddarparu asesiad dwys a chymorth therapiwtig i bobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd trothwyon CAMHS, ond sy’n dangos bod ganddynt anghenion sylweddol a bod angen cymorth arnynt.

 

Dywedodd bod nifer o gwestiynau wedi codi yn y cyfarfod a oedd yn cysylltu’r amcan ag addysg ac awgrymwyd bod adroddiad pellach ar y maes hwn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. Awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei roi iddi hi er mwyn ei galluogi i godi hyn mewn cyfarfodydd rheolaidd a gynhelir gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Pe bai angen ymgysylltu ymhellach ag ysgolion, gellid gwneud hynny trwy ddarparu adroddiad yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac Addysg ac Ieuenctid sydd wedi’i drefnu ar gyfer 17 Mehefin 2021.

 

Cynigodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

(c)        Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

            ions be noted.