Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (EY& C)
11/01/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf. Yn unol â'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, wrth ystyried y Strategaeth Adfer, roedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi cael ei llenwi, fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at drafodaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 wrth drafod Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect Gweddnewid Plant. Soniodd am yr amcan canlynol a amlygwyd yn yr adroddiad:-
- Dod â staff gofal iechyd a chymdeithasol ynghyd i ddarparu asesiad dwys a chymorth therapiwtig i bobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd trothwyon CAMHS, ond sy’n dangos bod ganddynt anghenion sylweddol a bod angen cymorth arnynt.
Dywedodd bod nifer o gwestiynau wedi codi yn y cyfarfod a oedd yn cysylltu’r amcan ag addysg ac awgrymwyd bod adroddiad pellach ar y maes hwn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. Awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei roi iddi hi er mwyn ei galluogi i godi hyn mewn cyfarfodydd rheolaidd a gynhelir gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Pe bai angen ymgysylltu ymhellach ag ysgolion, gellid gwneud hynny trwy ddarparu adroddiad yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac Addysg ac Ieuenctid sydd wedi’i drefnu ar gyfer 17 Mehefin 2021.
Cynigodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.
ions be noted.