Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (C H & E)
04/01/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf. Yn unol â’r argymhelliad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, wrth ystyried y Strategaeth Adfer, roedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i llenwi, fel oedd i’w weld yn Atodiad 1 i’r adroddiad. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd pob cam gweithredu o’r cyfarfod blaenorol wedi cael eu cwblhau.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.