Mater - penderfyniadau

Statement of Accounts 2019/20

26/11/2020 - Statement of Accounts 2019/20

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2019/20 gan ymgorffori newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad. Ar ôl derbyn y cyfrifon drafft er gwybodaeth ym mis Gorffennaf, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r fersiwn terfynol oedd yn ymgorffori’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cyllid grant argyfwng yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru (LlC) fel a ganlyn:

 

·         Colled incwm COVID-19 o £78 miliwn – ers y cadarnhawyd ar gyfer y cyfnod o Ebrill i Fehefin 2020.

·         £264 miliwn ychwanegol i gefnogi cynghorau yng Nghymru – manylion i’w cadarnhau.

·         Ffigwr diwygiedig o £31.3 miliwn o daliadau grant cymorth i fusnesau a wnaed gan y Cyngor gyda rhyddhad ardrethi o £16.2 miliwn.

 

Mewn perthynas â chanfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei fod yn galonogol nodi bod y datganiadau wedi cael eu cynhyrchu i safon dda o fewn yr amserlen, er gwaethaf yr heriau a godwyd yn sgil y sefyllfa argyfwng. Yn ogystal â hynny, roedd yn falch o adrodd bod y Cyngor ar y trywydd iawn i gyhoeddi’r cyfrifon o fewn yr amserlen statudol. Diolchodd i Paul Vaughan, John Richards, Liz Thomas a’r tîm am eu gwaith er mwyn cyrraedd y sefyllfa hwn ac atgoffodd y Pwyllgor bod cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd yn destun proses cymeradwyo ar wahân. Aeth ymlaen i sôn am heriau sylweddol yr amserlen cynharach ar gyfer cyfrifon 2020/21 lle roedd gwaith eisoes wedi digwydd.

 

Wrth amlygu meysydd allweddol yn yr adroddiad, canmolodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru, y tîm Cyllid am eu hymateboldeb yn ystod yr archwiliad a’r modd yr oeddent wedi casglu’r cyfrifon i’r safonau uchaf arferol o dan amgylchiadau heriol iawn. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu effaith y pandemig ar yr archwiliad a oedd yn golygu addasu i ffordd wahanol o weithio, a chydnabuwyd y berthynas weithio gadarnhaol gyda swyddogion y Cyngor i ddatrys ymholiadau yn brydlon trwy gydol y broses.  Roedd cynnwys ‘Pwyslais Mater’ yn tynnu sylw at ansicrwydd oedd yn codi o’r sefyllfa argyfwng mewn dau faes, nad oedd yn newid y farn (glân) anghymwys ar gyfrifon gr?p.

 

Mynegodd Allan Rainford ei werthfawrogiad i’r tîm Cyllid am eu gwaith ar y cyfrifon. Cyfeiriodd ar y cywiriad ar Nodyn 10 ar yr asedau a gânt eu dal i'w gwerthu a dywedodd y gellir cyfeirio at hwn fel mater cyflwyniadol gan nad oedd yn effeithio ar y fantolen. Rhoddodd Mike Whiteley eglurhad ar y diffyg adolygiad o asedau adeiladau’r Cyngor yn ystod y broses prisio, gan gadarnhau, er nad oedd yn arwain at ddatganiad materol anghywir, roedd trefniadau’n cael eu gwneud i ddatrys y mater ar gyfer 2020/21.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, darparodd y Prif Weithredwr eglurhad ar y gwasanaeth offer cymunedol integredig ym Mhenarlâg.

 

Pan ofynnodd Sally Ellis am effaith gweithio o bell, rhoddodd Mike Whiteley esiamplau o ddulliau amgen a ddefnyddiwyd yn ystod y broses archwilio a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar lefelau sicrwydd o’r eitemau a brofwyd.

 

Cymerodd y Cynghorydd Banks y cyfle i ddiolch i swyddogion y Cyngor a chydweithwyr Archwilio Cymru am eu holl waith ar yr archwiliad. Mewn ymateb i sylw ar gyfranogiad y Pwyllgor ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai adroddiad ar y broses ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei rannu yn y cyfarfod nesaf.

 

Cefnogodd y Pwyllgor yr argymhellion yn yr adroddiad, yn amodol ar y newidiadau a amlinellwyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo fersiwn terfynol o’r Datganiad Cyfrifon 2019/20, gan ymgorffori’r sefyllfa ddiwygiedig ar gyllid grant argyfwng;

 

 (b)      Nodi adroddiad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o’r Datganiadau Ariannol - Cyngor Sir y Fflint’; a

 

 (c)      Chymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.