Mater - penderfyniadau

Treasury Management Annual Report 2019/20 and Treasury Management Update Quarter 1 2020/21

22/09/2020 - Treasury Management Annual Report 2019/20 and Treasury Management Update Quarter 1 2020/21

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro (Cyfrifyddiaeth Dechnegol) yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer Rheoli Trysorlys 2019/20 i’w adolygu a’i argymell i'r Cabinet. Hefyd, rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar Bolisi Rheoli Trysorlys, Strategaeth ac Arferion 2020/21 er gwybodaeth, ynghyd â’r cylch adrodd.

 

Wrth baratoi i gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21, bydd pob aelod yn derbyn gwahoddiad i’r sesiwn hyfforddiant blynyddol ym mis Rhagfyr, a fydd wedi’i hwyluso gan yr Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys. Bydd manylion yr hyfforddiant ar gael yn nes at yr amser. Crynhowyd prif feysydd Adroddiad Blynyddol 2019/20, megis lefel isel barhaus y cyfraddau llog a’r arenillion ar fuddsoddiadau. Roedd y gweithgareddau benthyca yn cynnwys dyrannu benthyciadau i NEW Homes i ariannu’r cynllun adeiladu tai Cyngor.

 

O ran diweddariad Chwarter 1 2020/21, er gwaethaf yr heriau yn sgil yr argyfwng, mae'r swyddogaeth rheoli trysorlys mewn sefyllfa weddol gref oherwydd gwaith y Tîm Cyllid.Tra bod y Strategaeth Fuddsoddi gyda'r Swyddfa Rheoli Dyledion yn adlewyrchu'r flaenoriaeth a roddir i ddiogelu cronfeydd, mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi dechrau buddsoddi unwaith eto gyda Chronfeydd Marchnad Arian a oedd yn cynnig arenillion gwell.

 

Roedd Allan Rainford yn falch o nodi na fu unrhyw achos o dorri strategaeth y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau ar gyfraddau llog, dywedodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro nad oeddynt yn disgwyl cynnydd mewn cyfraddau tymor byr. O ran benthyca, mae gwaith monitro rheolaidd yn cael ei wneud i asesu benthyca hirdymor a thymor byr gydag adolygiadau misol i drafod y gofynion.

 

O ran benthyca tymor byr, cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at y gwahaniaeth yn ffioedd broceriaeth awdurdodau lleol ers y llynedd. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro y byddai’n edrych i mewn i hyn a darparu ymateb ar wahân.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford, gyda’r Cynghorydd Johnson yn eilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2019/20, heb dynnu unrhyw fater i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a

 

(b)       Nodi diweddariad Chwarter 1 Rheoli Trysorlys 2020/21.