Mater - penderfyniadau
Housing Rent Income
11/08/2020 - Housing Rent Income
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad Incwm Rhent Tai a oedd yn darparu manylion ar sefyllfa ddiweddaraf casglu rhent.
Fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Cabinet, roedd gwaith sylweddol wedi cael eu gyflawni dros y chwe mis diwethaf i sefydlogi sefyllfa ôl-ddyledion rhent, gyda’r gwaith yn cynnwys:
· Cynyddu adnoddau;
· Cyflwyno ymyrraeth gynnar;
· Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser; a
· Buddsoddi mewn technoleg newydd
Roedd yr holl waith wedi dod ynghyd ac am y tro cyntaf ers 2016/17 roedd casgliadau rhent yn gwella ac ôl-ddyledion rhent yn lleihau. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, hyd at wythnos 42, yn £2.04M o’i gymharu â £2.18M ar yr un adeg yn 2018/19, gan ddangos lleihad o £143,000.
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod cynnydd cyson yn cael ei wneud i leihau ôl-ddyledion rhent a bod hynny’n cael ei gyflawni o ganlyniad uniongyrchol i:
· Gynyddu adnoddau;
· Cyflwyno canolbwynt ymyrraeth gynnar i gynorthwyo’r tenantiaid hynny mewn mwy o risg o golli eu cartrefi;
· Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser; a
· Buddsoddi mewn Meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft.
Roedd y gwasanaeth Refeniw yn parhau i gymryd camau cyfreithiol fel ateb olaf yn erbyn y tenantiaid hynny nad oedd yn ymgysylltu ac yn methu talu rhent ar amser. Gydag oddeutu 7,100 o denantiaid, dim ond 20 achos o droi allan oedd wedi digwydd hyd yn hyn yn 2019/20 am ôl-ddyledion rhent difrifol ac ar ôl cyflawni holl opsiynau adennill eraill gan y Cyngor, a dim ond ar ôl i’r system cyfreithiol fodloni bod popeth wedi cael ei wneud i gefnogi’r tenant.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod effaith Credyd Cynhwysol yn amlwg ar y graff yn yr adroddiad ac er gwaethaf heriau parhaus i gynyddu’r nifer o denantiaid sy’n dod oddi ar Fudd-Dal Tai i’r system Credyd Cynhwysol, roedd y gwasanaeth tai wedi gweithio’n galed i herio effeithiau anochel y mae mwyafrif o landlordiaid cymdeithasol yn profi wrth godi ôl-ddyledion rhent.
Croesawodd Aelodau’r adroddiad, yn arbennig yr ymyraethau cynnar i gynorthwyo tenantiaid.
PENDERFYNWYD:
Bod sefyllfa ariannol ddiweddaraf ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, yn cael ei nodi.