Mater - penderfyniadau
Marleyfield House Expansion
11/08/2020 - Marleyfield House Expansion
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Estyniad Marleyfield House a oedd yn amlinellu cwmpas costau presennol ar gyfer y prosiect ac amcangyfrif o’r costau ar gyfer adeiladu.
Roedd dyluniad yr estyniad yn dangos dull arloesol i gefnogi unigolion mewn lleoliad preswyl. Roedd y dyluniad yn sympathetig i dopograffi’r safle ac yn galluogi mwy o le awyr agored i’w ddefnyddio a hygyrchedd i gefnogi lles preswylwyr. Roedd yn caniatáu cynnydd mewn gweithrediad, cyswllt gyda chyfleusterau presennol, ac yn cefnogi cyfleusterau gwell ar gyfer preswylwyr parhaol a all fod yn byw gyda cholled cof a dementia.
Roedd dadansoddiad cost dechreuol o ddylunio, dodrefn a chyfleusterau yn yr adeilad oddeutu £8.62M, gyda’r manylion llawn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd hyn yn gynnydd ers yr adroddiad i’r Cabinet ym mis Ebrill 2019, pan adroddwyd mai’r cost arfaethedig oedd £7.6M. Roedd y rhesymau dros y cynnydd hefyd wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol bod hwn yn brosiect arloesol a chyffrous a fyddai’n cael effaith cadarnhaol ac yn elwa preswylwyr newydd a’r rhai presennol. Bydd gwaith tirlunio helaeth i’r mannau allanol a fydd yn hwyluso symudiad ar draws y cartref ac integreiddio’r adeiladau presennol a newydd. Darparodd fanylion am yr amserlenni hefyd.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb oedd yn rhan o’r prosiect a oedd yn esiampl da o weledigaeth y Cyngor i ofalu am aelodau diamddiffyn o’r cyhoedd. Croesawodd holl Aelodau eraill y cynllun a oedd yn raglen flaenllaw ar gyfer Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r dyluniad presennol ar gyfer yr estyniad, gan gynnwys ei fforddiadwyedd gyda’r costau presennol a’r gyllideb ar gael; a
(b) Cymeradwyo fod y Cyngor yn mynd i gytundeb gyda’r cwmni adeiladu yn ystod Mawrth 2020, gydag awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Phrif Swyddog (Tai ac Asedau) i drafod y cynllun cost terfynol, o fewn amrywiad o 5% o’r rhagamcanion presennol a nodwyd yn yr adroddiad.