Mater - penderfyniadau

Review of Member/Officer Protocol

09/10/2020 - Review of Member/Officer Protocol

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried diweddaru’r Protocol Aelodau / Swyddogion fel rhan o adolygiad parhaus y Pwyllgor o’r Cyfansoddiad. Yn ogystal ag adlewyrchu newidiadau mewn arferion gwaith, rhoddodd y diwygiadau arfaethedig ystyriaeth i waith diweddar ar Safon Sir y Fflint, yr adolygiad o ymdrin ag ymholiadau Aelodau a chanlyniad y Tribiwnlys Achos yr adroddwyd arno’n ddiweddar i’r Pwyllgor. Ar ôl cytuno ar y newidiadau arfaethedig, bydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei hysbysu amdanynt er mwyn argymell i’r Cyngor eu mabwysiadu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Heesom, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at God Ymddygiad y Swyddogion sydd newydd ei ddiweddaru, sydd ar gael o fewn y Cyfansoddiad. Os oes gan unrhyw Aelod bryder, gallant ei godi gyda’r swyddog neu eu rheolwr atebol, sy’n gorfod mynd i’r afael ag unrhyw achos posib o dorri’r safonau. Gan fod gan weithwyr hawl i gyfrinachedd mewn perthynas â materion disgyblu, dim ond crynodeb lefel uchel o'r canlyniad yr oedd posib ei roi i’r Aelod fel adborth.

 

Cytunwyd ar y diwygiadau canlynol i fersiwn Saesneg y protocol:

 

·         Adran 7.3:  Tynnu ‘to’ o’r frawddeg gyntaf. Tynnu ‘Lead Members' a chynnwys cyfeiriad at Gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio, Trwydedu a Chynllunio i adlewyrchu’r amrywiol lefelau o gymorth a ddarperir. Nid oes angen priflythyren yn ‘services’ yn y frawddeg olaf.

·         Rhoi priflythyren yn ‘Member’ yn adrannau 5.3, 7.2, 9.1, 9.2 a 10.3.

·         Adran 9.2: rhoi ‘key’ o flaen ‘decisions under delegated powers’.

·         Adran 14.2: dylai ddarllen: ‘in relation to’.

 

Cynigodd y Cynghorydd Woolley yr argymhellion, a chawsant eu heilio gan Phillipa Earlam.

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell y dylai’r Cyngor fabwysiadu’r Protocol diwygiedig.