Mater - penderfyniadau

Installation of Vehicular Crossings Policy

02/10/2020 - The Installation of Vehicular Crossings on the Public Highway

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi manylion y polisi a phrosesau sy’n ofynnol i ostwng palmentydd priffyrdd i ganiatáu mynediad i eiddo preifat. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybod fod y rhan fwyaf o eiddo yn y Sir â chroesfannau presennol a bod y Cyngor, fel Awdurdod Priffyrdd, yn gyfrifol am gynnal y cyfleuster. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cael ceisiadau’n rheolaidd am bwyntiau mynediad newydd neu ychwanegol, ac roedd polisi am osod Croesfannau newydd i Gerbydau wedi’i gymeradwyo’n flaenorol gan y Cabinet. Gallai preswylwyr ymgeisio i ostwng y palmant o flaen eu heidio a gosod mynedfa i gerbydau i’w heiddo, o’r rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, a fyddai’n cael ei hadeiladu i fanyldeb y cytunwyd arni ac ar gost yr ymgeisydd.  Roedd manylion y prosesau’n gysylltiedig â gosod croesfannau i gerbydau wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cododd y Cynghorydd Sean Bibby nifer o bryderon o ran parcio ar y stryd y phalmentydd wedi’u gostwng. Mewn ymateb i’r Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd, cyfeiriodd at Adran 3 o’r Polisi’n cyfeirio at groesfannau i gerbydau a rhoddodd wybod fod pob cais yn cael ei ystyried yng nghyd-destun beth oedd yn fwyaf priodol ar gyfer y stryd.  

 

Holodd y Cynghorydd Chris Bithell pa weithdrefnau a oedd yn eu lle i sicrhau bod palmentydd is yn cael eu hawdurdodi a pha gamau a gymerir os nad yw hyn yn digwydd.  Rhoddodd y Prif Swyddog wybod, os bydd y Cyngor yn dod i wybod am waith heb awdurdod, yna gellid cymryd camau ôl-weithredol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd David Evans a'i eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y broses ar gyfer gosod croesfan i gerbydau ar y Rhwydwaith Priffyrdd yn cael ei nodi.