Mater - penderfyniadau
The Council’s Response to the Challenges of Climate Change
02/10/2020 - The Council’s Response to the Challenges of Climate Change
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ar ymateb y Cyngor i heriau newid hinsawdd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol. Rhoddodd wybod y cytunwyd y byddai gweithdy i’r holl Aelodau’n digwydd 25 Chwefror, i ymgysylltu ag Aelodau ar heriau newid hinsawdd. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad ar gyfer cyfarfod y Cabinet 17 Rhagfyr, a atodwyd i’r adroddiad, yn nodi’r heriau i’r sector cyhoeddus yn gyffredinol, a Chyngor Sir y Fflint yn benodol, yn bodloni targed Llywodraeth Cymru o sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd David Evans ynghylch rôl Cynllunio wrth leihau allyriadau carbon, rhoddodd y Prif Swyddog sylw ar y Cynllun Datblygu Lleol a fyddai’n cynnwys cyfres o bolisïau, wedi’u dylunio i roi sylw i newid hinsawdd.
Gan gyfeirio at yr wybodaeth am fioamrywiaeth yn yr adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Kevin Hughes y safbwynt bod cynyddu gorchudd coed trefol o 14.5 i 18% erbyn 2033 yn uchelgeisiol, o ganlyniad i effaith clefyd coed ynn. Holodd y Cynghorydd Hughes a allai Sir y Fflint fabwysiadu polisi caffael lleol. Rhoddodd sylw hefyd ar yr angen am ymgyrch gyfathrebu a gwasg ragweithiol, i hyrwyddo dull y Cyngor tuag at newid hinsawdd.
Rhoddodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson sylw ar ddefnyddio camau gorfodi yn y sector preifat, i sicrhau bod allyriadau’n lleihau.
Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas sylw ar effaith newid hinsawdd ar draws pob maes gwasanaeth yn yr Awdurdod, a rhoddodd wybod am y gwaith corfforaethol sy’n cael ei wneud i ymateb i’r her.
Yn ystod trafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau pellach a godwyd gan Aelodau, yn ymwneud â pherygl o lifogydd, newid mewn economïau o amgylch ynni adnewyddadwy, lleihau’r defnydd o ddeunyddiau plastig, a gwaith ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill.
Anogodd y Cadeirydd yr Aelodau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o heriau newid hinsawdd gyda’u Cyngor Cymuned/Tref.
Cynigiodd y Cynghorydd Kevin Hughes yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cindy Hinds.
PENDERFYNWYD:
Nodi a hyrwyddo cynnwys yr adroddiad Cabinet amgaeedig, er mwyn paratoi ar gyfer y Gweithdy i’r holl Aelodau 25 Chwefror 2020.