Mater - penderfyniadau
Proposals for Infrastructure Improvements at Standard Yard Waste Transfer Station
17/04/2020 - Proposals for Infrastructure Improvements at Standard Yard Waste Transfer Station
Cyflwynodd yCynghorydd Thomas yr adroddiad ar Gynigion ar gyfer Gwelliannau Seilwaith yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Iard Safonol (WTF) oedd yn amlinellu’r cynigion ar gyfer cyllid i ddatblygu’r WTF. Gofynnodd am gymeradwyaeth i ddatblygu’r prosiect.
Roedd cyfle wedi codi i ymestyn y safle er mwyn i’r WTS weithredu dan do ar un safle a chynyddu maint y safle. Byddai hyn yn hwyluso twf a chapasiti yn y dyfodol, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a chydymffurfio amgylcheddol ar y safle. Yn ei dro byddai’r cyfleuster newydd yn galluogi’r Cyngor i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau halogi deunyddiau a chynyddu ansawdd deunyddiau a ailgylchir, a thrwy hynny sicrhau cymaint o incwm â phosibl ar gyfer deunyddiau a ailgylchir i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynigion ar gyfer datblygu’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff; a
(b) Chymeradwyo’r ceisiadau arfaethedig am gyllid oedd eu hangen ar gyfer y gwelliannau i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol.