Mater - penderfyniadau

Proposals for Infrastructure Improvements at Standard Yard Waste Transfer Station

11/02/2020 - Proposals for Infrastructure Improvements at Standard Yard Waste Transfer Station

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad a oedd yn cynnwys cynigion i uwchraddio’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff bresennol yn Ystâd Ddiwydiannol Standard ym Mwcle oherwydd twf sylweddol o ran galw prosesu.  Roedd yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn galluogi gwahanu a didoli deunydd ailgylchu cyn cael eu hanfon ymlaen i’w prosesu. Roedd yr adroddiad yn nodi cynigion ariannu ac yn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i barhau â’r prosiect.

 

 Dywedodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth, Priffyrdd a Gwastraff, fod y cynigion wedi’u llywio gan yr ymarfer ymgynghori gwastraff gan gynnwys gweithredwyr oedd yn gweithio ar y safle.   Byddai’r cynigion yn gwella mynediad a chyfleusterau a chreu canolfan addysgol wrth ddatrys problemau logistaidd ar y safle hefyd. Y nod ar y cam hwn oedd cael cymeradwyaeth wleidyddol cyn bwrw ymlaen â dyluniad y datblygiad.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd potensial i rannu’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff oherwydd bod gan gynghorau cyfagos eu cyfleusterau eu hunain.

 

Diolchodd y ddau Aelod lleol, y Cynghorydd Hutchinson a’r Cynghorydd Peers, i’r Rheolwr Darparu Gwasanaeth am gyfarfod â nhw a rhoi’r cyfle iddynt roi adborth. Er bod y ddau yn cefnogi’r angen am fuddsoddiad ar y safle, mynegodd y Councillor Peers nifer o bryderon a oedd eisoes wedi’u rhannu â swyddogion. Cwestiynodd hyfywedd adleoli’r Cyfleuster Adennill Deunydd presennol i Faes Glas a gofynnodd lle roedd y problemau o ran offer yn torri i lawr wedi’u hadrodd. Credai fod y ffordd fynediad newydd arfaethedig oddi ar Globe Way yn ddiangen ac awgrymodd fod y ffordd bresennol yn cael ei defnyddio yn lle hynny (wedi’i marcio â saethau ar y cynllun) er mwyn osgoi torri’r adeilad i ffwrdd.  Felly cynigiodd fod yr argymhelliad cyntaf yn cael ei newid i nodi’r cynnig “mewn egwyddor” i wella’r safle.

 

Wrth groesawu adborth, mynegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) barodrwydd i drafod dewisiadau ar gyfer datblygu’r safle i sicrhau ei hyfywedd yn y dyfodol. Dywedodd fod y materion cynnal a chadw wedi cynyddu dros amser wrth i’r offer heneiddio.

 

Eglurodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth mai bwriad adleoli’r Cyfleuster Adennill Deunydd oedd darparu cadernid fel cyfleuster wrth gefn yn unig i gynyddu capasiti ym Maes Glas.

 

Anogodd y Cynghorydd Shotton y Cyngor i fanteisio ar gyfleoedd ariannu gan Lywodraeth Cymru pan fyddant ar gael.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y'i diwygiwyd, eu cynnig gan y Cynghorydd Peers ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynigion, mewn egwyddor, ar gyfer datblygu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard; a

 

(b)       Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r ceisiadau cyllid arfaethedig a’r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard.