Mater - penderfyniadau

Outcome of the Waste Strategy Review Consultation Process

11/02/2020 - Outcome of the Waste Strategy Review Consultation Process

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo newidiadau i’r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.  Diolchodd i breswylwyr am weithio gyda’r Cyngor i gynnal y perfformiad cryf o ran ailgylchu, sef y trydydd gorau yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod yr argymhellion yn ystyried mwy nag 8,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn adlewyrchu newidiadau i’r strategaeth genedlaethol ac yn ceisio rhagor o welliant o ran perfformiad ailgylchu i gyrraedd targedau yn y dyfodol.  Er nad oedd cefnogaeth ar hyn o bryd o ran newid amlder casgliadau bin du, roedd 32% o breswylwyr wedi dweud nad oeddent yn sicr a fyddent yn ymdopi pe bai newid o’r fath yn digwydd.  Argymhellwyd bod y dewis hwn yn cael ei adolygu eto ymhen 12 mis i ddeall effaith newidiadau gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r strategaeth genedlaethol. Roedd y cynnig am ragor o orfodaeth wedi’i gefnogi’n eang, gyda rhai preswylwyr yn cydnabod yr angen am atebolrwydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai nod y cynigion oedd cyflawni effaith gadarnhaol drwy newidiadau o ran ymddygiad. Wrth gydnabod pryderon o ran rhagor o orfodaeth, roedd y dull tri cham yn caniatáu ar gyfer hysbysu ac addysgu i ddechrau, gyda chamau ffurfiol yn cael eu cymryd ar gyfer achosion parhaus o ddiffyg cydymffurfio. Roedd ystadegau presennol yn dangos pa mor effeithiol oedd y broses wrth helpu preswylwyr i ddeall a dilyn y system. Ymhlith y newidiadau arfaethedig eraill roedd rhaglen addysg i breswylwyr, treial casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol a ariennir gan LlC, adolygiad o lwybrau casglu gwastraff a gwahanu deunydd ailgylchu cardfwrdd a phapur i gynhyrchu incwm ychwanegol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y dylid annog preswylwyr i ailgylchu rhagor o wastraff bwyd a’i bod yn gallu ymweld ag ysgolion a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau arfaethedig.  Soniodd hefyd am ymgyrch genedlaethol i gynyddu addysg am ailgylchu.

 

Er ei fod o blaid rhagor o orfodaeth i’r rhai sy’n methu ailgylchu dro ar ôl tro, dywedodd y Cynghorydd Peers fod rhaid ystyried unrhyw ffactorau sy’n cyfrannu at hyn, er enghraifft oedran neu broblemau iechyd.  Gofynnodd a oedd digon o gapasiti mewn criwiau casglu gwastraff i gynnal y rhestr fonitro ar gyfer ailgylchu a ddylai fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio na ddylai fod unrhyw effaith ar y criwiau a bod enwau preswylwyr yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr fonitro pan nad oedd angen camau gorfodi bellach. Nodwyd preswylwyr diamddiffyn sy’n cael problemau gydag ailgylchu ac roedd proses ar waith i dargedu cefnogaeth briodol. Gan ymateb i gwestiynau pellach, eglurwyd y byddai casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn adlewyrchu’r casgliadau gwastraff meddygol presennol gyda bag ar wahân. Roedd gwahanu papur a chardfwrdd yn newid gweithredol a adlewyrchwyd drwy adborth i’r ymgynghoriad hefyd a byddai’n cael ei gyflwyno mewn camau.

 

Cododd y Cynghorydd Hardcastle bryderon fod rhai preswylwyr h?n neu ddiamddiffyn yn ansicr sut i ailgylchu a gallent fod yn pryderu am orfodaeth bosibl. Siaradodd o blaid y cynigion ond mynegodd bryderon am y posibilrwydd y gallai deunydd ailgylchu gael ei roi mewn bin du cymydog ar ddamwain.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog yr Aelodau am ganlyniadau trafodaeth am y Strategaeth Wastraff yng nghyfarfod mis Hydref. Dywedodd y byddai’n adrodd yn ôl am bryderon y Cynghorydd Hardcastle a rhoddodd enghreifftiau lle roedd aelwydydd a oedd angen cymorth wedi’u nodi ac wedi cael sylw gan swyddogion, oherwydd addysg oedd y flaenoriaeth yn hytrach na rhoi rhybuddion cosb benodedig. O ran goblygiadau o ran adnoddau, nodwyd bod y ffigur a ddyfynnwyd sef £70K yn cynnwys cost y cerbyd a gorbenion ar gyfer y ddau swyddog Gorfodi ychwanegol.

 

Yn ystod y drafodaeth, canmolodd Aelodau’r ymarfer ymgynghori helaeth, y canlyniad o ran amlder casgliadau bin du a’r canolbwynt ar addysg.

 

Diolchodd y Cynghorydd Dunbobbin i aelodau’r cyhoedd a oedd wedi ymateb i’r arolwg. O ran y broses ymgynghori, cadarnhawyd bod barn gweithredwyr Strydwedd wedi’i chynnwys drwy sesiynau briffio yn y gweithle.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bibby ganlyniadau’r adroddiad hefyd a rhannodd enghraifft lle roedd swyddogion wedi darparu cefnogaeth i breswyliwr diamddiffyn mewn modd gofalgar a sensitif.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dolphin o blaid cael gwared ar gasgliadau dydd Sul a chamau gorfodi cadarn. Cyfeiriodd at effaith gollwng sbwriel y tu allan i eiddo a darpariaeth ddigonol ar gyfer storio papur wedi’i rwygo sy’n barod i’w gasglu.   Darparodd y Cynghorydd Carolyn Thomas gyngor am y ffordd orau o storio deunydd ailgylchu i wneud y mwyaf o le yn y biniau.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Owen Thomas am leihau deunydd pecynnu gormodol, cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas at ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am gyfrifoldeb cynhyrchwyr.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Hutchinson yr angen i gefnogi pobl ddiamddiffyn ar draws pob math o lety, a’r angen i addysgu pobl am y ffordd gywir o ailgylchu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y byddai dosbarthu taflenni i bob preswyliwr yn ffurfio rhan o’r rhaglen addysg.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad, anogodd y Cadeirydd yr Aelodau a oedd yn llywodraethwyr ysgol hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r cynigion mewn ysgolion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bibby gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r ymatebion i’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor; a

 

(b)       Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r newidiadau i’r gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff a nodir yn yr adroddiad.