Mater - penderfyniadau
School Modernisation – School Standards and Organisation Act 2018 – Lixwm School Re-designation
17/04/2020 - School Modernisation – School Standards and Organisation Act 2018 – Lixwm School Re-designation
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Foderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2018 – Ail-ddynodi Ysgol Licswm oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i Ysgol Licswm ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
Ers penderfyniad y Cabinet i beidio â bwrw ymlaen i uno Ysgol Gynradd Brynffordd ac Ysgol Gynradd Licswm ym Mehefin 2018, roedd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Licswm a swyddogion addysg o Esgobaeth Anglicanaidd yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cynnal trafodaethau rhagweithiol i gryfhau’r berthynas bresennol rhwng yr ysgol â’r Eglwys Anglicanaidd, gydag uchelgais hirdymor i geisio ffederaleiddio ag ysgol leol â’r un dynodiad. Fodd bynnag, roedd yn rhaid dilyn proses statudol a chynnal ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2018.
Eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y cyfnod ymgynghori ffurfiol wedi’i gynnal rhwng 26 Medi 2019 a 11 Tachwedd 2019. Roedd copïau o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u hatodi i’r adroddiad gyda 25 o ymatebwyr (97%) o blaid y cynnig, ac 1 (3%) yn erbyn y cynnig. Roedd Esgobaeth Llanelwy, yr Aelod lleol a Chadeiryddion Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Licswm a Chaerwys oll wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cynigion, ac roedd eu hymateb hwythau wedi’i atodi i’r adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts a’r Prif Swyddog i’r Llywodraethwyr a’r Pennaeth am weithio gyda’r Cyngor a dymunodd bob llwyddiant iddynt.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, a’r dystiolaeth a’r dadansoddiad a ddarparwyd gan swyddogion yn yr ymgynghoriad, yn cael ei ystyried, a
(b) Bod y cam nesaf o’r cynigion statudol i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Sirol Licswm yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yn cael ei gymeradwyo.