Mater - penderfyniadau

Submission of Certified Grants and Returns 2018/19

11/02/2020 - Submission of Certified Grants and Returns 2018/19

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar gynnydd i gyflwyno hawliadau grantiau oedd yn gofyn am ardystiad grant gan Swyddfa Archwilio Cymru am y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2019. Yn ogystal, rhoddodd yr adroddiad fanylion cynnydd ar gamau’n codi o broses ardystio 2017/18 ac amlinellodd y newidiadau i Broses Archwilio Allanol y Grant o 2019/20.

 

Cyflwynwyd yr 11 hawliad grant ar gyfer 2018/19 i Swyddfa Archwilio Cymru erbyn y dyddiad cau gan ddisgwyl i ganfyddiadau’r archwiliad gael eu hadrodd i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2020. Yn dilyn newid cenedlaethol i drefniadau archwilio ar gyfer cynlluniau grantiau Awdurdod Lleol, roedd trefniadau mewnol priodol yn cael eu trafod gydag Archwilio Mewnol i’w cynnwys yn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2020/21 gan nodi’r dulliau diogelu oedd eisoes ar waith wrth gwblhau’r rhestrau gwirio. Byddai’r trefniadau newydd hefyd yn cael eu hysbysu gan ganfyddiadau proses ardystio grant 2018/19.

 

Dywedodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru fod yr ymateb i’r argymhellion yn galonogol. Byddai’r newidiadau ar ddod i ofynion ardystio Llywodraeth Cymru o 2019/20 ymlaen yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn baich gwaith gan Swyddfa Archwilio Cymru a fyddai’n cael ei adlewyrchu yn y ffi archwilio ardystio grantiau. Tra’r oedd gwaith archwilio’n mynd rhagddo ar hawliadau grantiau 2018/19, adroddwyd cynnydd cadarnhaol ar yr argymhelliad cyntaf o’r cynllun gweithredu o 2017/18.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, rhoddodd Matthew Edwards eglurhad ar y broblem asesu grantiau a ddynodwyd yn flaenorol. Nododd fod hon yn rhan gymhleth o’r broses asesu ac yn broblem mewn cynghorau eraill. Roedd swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru wrthi’n asesu goblygiadau’r trefniadau hynny a byddent yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnydd y broses Ardystio Hawliadau Grantiau ar gyfer 2018/19;

 

(b)       Nodi’r cynnydd ar gamau gweithredu sy’n codi o adroddiad 2017/18; a

 

(c)       Nodi’r newidiadau a wnaed i Broses Archwiliad Allanol Grantiau o 2019/20.