Mater - penderfyniadau
Risk Management Update
11/02/2020 - Risk Management Update
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a grynhodd y sefyllfa ar y risgiau strategol yng Nghynllun 2019/20 y Cyngor a rhoddodd ddiweddariad ar waith sy’n mynd rhagddo i ailsefydlu’r dull o reoli risgiau.
Derbyniwyd adborth cadarnhaol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol oedd â golwg cyffredinol o’r risgiau ar draws y Cyngor, gyda risgiau unigol yn cael eu hadrodd yn chwarterol i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol. Adlewyrchodd yr adroddiad symudiad cadarnhaol wrth ostwng y risgiau (coch) mawr y rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb arno. Roedd cynnydd da’n cael ei wneud ar ddatblygu fframwaith rheoli risgiau grymus yr oedd disgwyl iddo gael ei rannu yn y cyfarfod nesaf.
Cwestiynodd Sally Ellis a oedd risgiau’n cael eu hadrodd yn ddigonol trwy Drosolwg a Chraffu. Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod y gwaith ar feysydd risg i bob un o’r pwyllgorau hyn bron â chael eu cwblhau gyda’r potensial am eitem sefydlog ar yr agenda. Byddai canfyddiadau Gr?p Rhwydwaith Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgor Archwilio (a fynychwyd gan y Rheolwr Archwilio Mewnol a Sally Ellis) yn hysbysu’r gwaith hwn hefyd.
Gofynnodd Allan Rainford am y broses ar gyfer penderfynu ar risgiau strategol. Siaradodd y Prif Weithredwr am ddwysau’r risgiau yn y Cabinet Anffurfiol ac mewn cyfarfodydd gyda Phrif Swyddogion. Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol at ymgysylltiad da gyda meysydd gwasanaeth trwy swyddogion arwain perfformiad ym mhob portffolio.
O ofyn i fwrw pleidlais, cefnogodd y Pwyllgor yr argymhellion. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am gofnodi ei fod yn atal ei bleidlais.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi statws trosolwg cychwynnol risgiau strategol blaenoriaethau 2019/20 y Cyngor; a
(b) Nodi’r ymrwymiad i gyflwyno’r fframwaith a’r canllawiau rheoli risgiau ym Mhwyllgor Archwilio mis Ionawr.