Mater - penderfyniadau

Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Capital Programme – Delivery Review Update

08/01/2020 - Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Capital Programme – Delivery Review Update

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar gynnydd mewn darparu Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn y dyddiad cau yn Rhagfyr 2020.  Darparodd ragolwg o'r prif bwyntiau  yn cynnwys canlyniadau adolygiad Archwiliad Mewnol SATC a wnaed yn Rhagfyr 2018. Roedd asesiad SATC a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr holl awdurdodau yng Nghymru gyda stoc wedi cyflwyno datganiad cadarnhaol gyda Sir y Fflint yr unig gyngor yn derbyn dim argymhellion.  Roedd hyn yn rhoi sicrwydd fod y SATC yn cael ei ddarparu’n effeithiol ac yn fedrus.

 

Fel tenant y Cyngor dyma’r Cynghorydd Palmer yn canmol yr adroddiad ond siaradodd am ba mor addas oedd y rendro ar rai eiddo.  Sicrhaodd y Prif Swyddog fod buddsoddiad parhaus a gwaith cynnal a chadw i’r stoc dai wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am fwy o wybodaeth ar y cynlluniau i leihau’r nifer o ‘fethiannau derbyniol’ fel rhan o’r Cytundeb Crynhoi Mewnol.  Cafwyd eglurhad gan y Rheolwr Gwaith Cyfalaf ar y dull  o gael mynediad i eiddo i asesu diogelwch a chyflwr.  Roedd nifer o resymau i’r unigolion hynny wrthod contractwyr i gael mynediad i’w heiddo yn cynnwys rhai achosion gwirioneddol sydd angen delio gyda nhw’n sensitif.  Ar adnoddau fe siaradodd y Prif Swyddog am newid ffocws i fynd i’r afael â llefydd gwag er mwyn gwneud y mwyaf o incwm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lloyd fod rhai eiddo ddim angen eu gwella.  Dywedodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf bod y rheiny wedi’u nodi fel methiannau derbyniol ond dal angen cael eu hasesu gan y Cyngor fel y nodir yn yr amodau tenantiaeth.

 

Yn ystod y ddadl, roedd y Cadeirydd a nifer o Aelodau wedi llongyfarch y tîm am yr adroddiad cadarnhaol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Shotton i gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn parhau i gefnogi’r Rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf yn ei ddwy flynedd olaf o fuddsoddiad sylweddol a phan yn bosib, i flaenoriaethu unrhyw anghenion/cefnogaeth i alluogi’r Rhaglen i gwrdd â’r dyddiad cau yn Rhagfyr 2020 yn llwyddiannus.