Mater - penderfyniadau

Member Development & Engagement

04/02/2020 - Member Development & Engagement

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf.  Tynnodd sylw at y ‘gweithdai ward’ a oedd wedi’u trefnu ar ôl cyhoeddi cynigion Adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd hefyd y byddai ‘sesiwn galw heibio’ agored ar 24 Hydref ar gyfer unrhyw Aelodau a oedd eisiau trafod sut y byddai’r cynigion yn effeithio ar eu ward nhw. Ar 28 Hydref, byddai gweithdy adolygu Wardiau Etholiadol pob Aelod a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth ar gyfer adroddiad i gyfarfod y Cyngor Sir a fyddai’n cael ei gynnal ar 19 Tachwedd 2019.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at y digwyddiadau a oedd yn cael eu cynnal yn ystod egwyl yr haf a gofynnodd a ellid osgoi hyn yn y dyfodol. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd nad oedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ystod mis Awst yn gyffredinol ond nad oedd dyddiadau eraill ar gyfer y ddau ddigwyddiad a gynhaliwyd ar 1 Awst eleni.  Amlygodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd gan y Cyngor egwyl ffurfiol, yn wahanol i’r Senedd. Roedd holl wasanaethau’r Cyngor yn parhau tra nad oedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal. Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a ellid cynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau mewn adroddiadau yn y dyfodol.  

 

PENDERFYNWYD:  

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd y digwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf; ac

 

 (b)      Os oedd gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol, bod gwahoddiad iddynt gysylltu â Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.