Mater - penderfyniadau

Annual Performance Report 2018/19

03/01/2020 - Annual Performance Report 2018/19

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel y manylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

 

            Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau’r Cyngor a lefel yr hyder oedd gan y Cyngor o ran cyflawni’r canlyniadau dymunol.  Roedd hefyd yn dangos y sefyllfa yn erbyn y 44 risg, gydag un risg wedi cynyddu o ran arwyddocâd yn ystod y flwyddyn, a 15 risg wedi gostwng o ran arwyddocâd erbyn diwedd y flwyddyn.

 

            Roedd perfformiad yn erbyn mesuryddion Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol gyda 92% o’r gweithgareddau allweddol cytunedig yn gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol. Yn ogystal â hyn, roedd 70% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, ac roedd 73% wedi gwella neu wedi aros yn sefydlog.

 

            Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (25%). Roedd 11% o’r risgiau yn dangos statws risg uchel ar ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau ariannol. Roedd y Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi parhau i ystyried meysydd perfformiad a fu’n tanberfformio drwy gydol 2018/19. Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad, yn cynnwys y manylion ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.    

 

            Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a byddai ar gael ar wefan y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo.