Mater - penderfyniadau
Greenfield Valley - Six monthly progress report
17/12/2019 - Greenfield Valley - Six monthly progress report
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad cynnydd chwe mis am Ddyffryn Maes Glas a chadarnhaodd bod y Cytundeb Rheoli wedi cael ei gytuno rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas ym mis Awst. Rhoddodd wahoddiad i’r Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad i gyflwyno’r adroddiad.
Cyflwynodd Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad y pwyntiau allweddol o’r 6 mis diwethaf am y gwaith a gynhaliwyd yn Nyffryn Maes Glas. Sef:
· Rheoli’r Safle
· Cronfa Dreftadaeth Y Loteri
· Llwybr Teithio Llesol
· Gwirfoddoli
· Larwm Tân / Gwaith trydanol
· Asesiad Iechyd a Diogelwch
· Y Faner Werdd
Yna, dangosodd Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad fideo byr o’r parc a rhoddodd adroddiad am y cynnydd cadarnhaol yr oedd Dyffryn Maes Glas wedi’i gael drwy’r elfennau a ganlyn:
· Gwaith Hyrwyddo
· Y Cyfryngau Cymdeithasol
· Digwyddiadau
Croesawodd Gadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas y berthynas gadarnhaol newydd rhwng y ddau sefydliad a chanmolodd y tîm am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf. Roedd hi’n cyfaddef y gallai pethau fynd o’i le ond gyda gwaith tîm gwych, roedd posib datrys problemau’n sydyn iawn ac roedd pethau’n dechrau symud yn eu blaen bellach.
Cododd y Cynghorydd Johnson bryder am dipio anghyfreithlon a chytunodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad i roi gwybodaeth ar Facebook, ynghyd â’r fideo a ddangoswyd yn y Pwyllgor.
Cwestiynodd Owen Thomas o lle oedden nhw’n cael eu trydan, o gofio faint o dd?r sy’n llifo ger y Parc.Cadarnhaodd Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad nad oedd y rhan trydan wedi’i orffen eto ond nad oedd yr olwyn dd?r yn gweithio eto. Cadarnhaodd bod gwaith ar y gweill gyda'r prosiect ac roedd hyn yn cael blaenoriaeth.
Roedd yr Aelodau’n canmol yr hyn oedd wedi cael ei wneud yn y 6 mis diwethaf ac roedden nhw eisiau iddyn barhau i hyrwyddo’r Ganolfan Treftadaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton y gallai fod o fantais i gysylltu â gwestai a meysydd carafanau lleol hefyd. Wrth ymateb i hyn, cadarnhaodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad bod taflenni eisoes wedi cael eu rhoi i westai a meysydd carafanau lleol ac roedd llawer yn ymweld â’r Ganolfan – rhai cyn belled i ffwrdd â Birmingham.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd cadarnhaol sydd wedi cael ei gyflawni yn Nyffryn Maes Glas.