Mater - penderfyniadau

School Reserve Balances Year Ending 31 March 2019

11/02/2020 - School Reserve Balances Year Ending 31 March 2019

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd ym meddiant ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion mewn diffyg.

 

Ar 31 Mawrth 2019, cafwyd cynnydd o 4.7% yn lefel gyffredinol y cronfeydd ers y flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd o 13.1% yn niffyg net y cronfeydd ym meddiant ysgolion uwchradd wedi’i wrthbwyso gan gynnydd o 7.2% mewn cronfeydd ysgolion cynradd. Tra’r oedd y sefyllfa ar gyllidebau ysgolion cynradd yn gadarnhaol gan mwyaf, arhosodd cyllidebau ysgolion uwchradd dan bwysau sylweddol, y byddai rhai ohonynt yn cael eu lliniaru trwy effaith newidiadau demograffig rhagamcanol ar ailddosbarthu cyllid. O ran ysgolion gyda gweddillion dros ben, roedd adolygiad yn cael ei gynnal o ysgolion gyda gweddillion cyson uchel.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid fod y ‘Protocol ar gyfer Ysgolion mewn Trafferthion Ariannol’ diwygiedig – a gyhoeddwyd i ysgolion yn ddiweddar – yn darparu proses fwy trwyadl ar gyfer gwneud ysgolion yn atebol am eu rheolaeth ariannol a byddai’n darparu cymorth priodol i’r rhai oedd yn bwrw tuag at sefyllfa o ddiffyg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am sicrwydd fod y sefyllfa’n cael ei rheoli. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gweddillion cronfeydd ysgolion eisoes wedi’u dynodi’n fater o bryder gan y Cyngor ac atgyfnerthwyd hyn gan argymhelliad diweddar Estyn. Bydd y broses ddiwygiedig yn dangos mwy o dryloywder ac yn darparu her adeiladol i ysgolion lle bo angen. Nodwyd, ar ôl bod trwy’r broses hon, efallai y bydd rhai ysgolion uwchradd yn parhau i fethu â chyflawni arbedion pellach heb gyfaddawdu’r gwaith o gyflawni’r cwricwlwm newydd ac y gallai fod angen ystyried ymyrraeth arbennig i’r gyllideb.

 

Wrth drafod, cytunodd y Rheolwr Cyllid i gylchredeg y protocol diwygiedig i’r Pwyllgor. Amlygodd y Cadeirydd ei bod hi’n bwysig i’r ysgolion rannu’r ddogfen gyda’u cyrff llywodraethol ac ymatebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud y byddai’r swyddogion yn gofyn yn ffurfiol i ysgolion roi’r eitem ar eu hagendâu yn y cylch nesaf.

 

Yn dilyn cwestiwn gan Allan Rainford, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid nad oedd unrhyw bryderon ynghylch nifer fach yr ysgolion nad oeddent eto wedi manteisio ar y dewis lefel gwasanaeth estynedig. Nid oedd angen y cymorth ychwanegol hwn ar ysgolion gyda rheolwyr busnes penodedig ond roedd rhaid i ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg gofrestru iddo. Rhoddwyd gwybodaeth am y gofyniad i ysgolion gyda gweddillion dros ben i gyflwyno cynlluniau gwario. Mewn perthynas ag adroddiad Estyn, nid oedd cyfnod amser diffiniedig y gallai ysgolion gario diffyg yn eu mantolen, fodd bynnag, bodlonwyd Estyn gan ymateb y Cyngor a chydnabuwyd yr heriau ariannol parhaus. Nodwyd nad oedd y sefyllfa o ddiffyg yng ngweddillion cronfeydd ysgolion yn unigryw i Sir y Fflint.

 

Pan ofynnodd Sally Ellis ynghylch modelu gwaith ar y newidiadau mewn demograffeg, siaradodd y Prif Weithredwr am yr amcanestyniadau cynllunio corfforaethol ehangach i hysbysu buddsoddiad mewn rhaglenni adeiladu ysgolion a datblygiadau tai. Dywedodd y Rheolwr Cyllid y byddai’r amcanestyniadau tair blynedd o niferoedd ysgolion cynradd yn lleihau gan 495 yn arwain at ostyngiad o 2.5% yn eu cyllidebau ac y byddai niferoedd uwchradd yn codi gan 444 yn cynyddu eu cyllidebau gan 3.2%. Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r newidiadau mewn demograffeg fod yn un o nifer o resymau pam y mae rhai ysgolion yn cynnal gweddillion dros ben.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar gronfeydd ysgolion, darparodd y swyddogion ddiweddariad cryno ar gynnydd y cynllun gweithredu a drafodwyd ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi gweddillion cronfeydd ysgolion ar 31 Mawrth 2019.