Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)
02/10/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a tynnodd sylw at gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Chwefror. Roedd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw. Cyfeiriodd yr Hwylusydd hefyd ar gyfarfod y Pwyllgor oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2020 a oedd yn cael ei gynnal yn Hwb Cyfle. Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.