Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (C & E)

31/03/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking (C & E)

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf, na wnaed unrhyw newidiadau iddi. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd mwyafrif y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau. 

 

            Soniodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am gytundeb blaenorol y byddai swyddog yn cysylltu â hi i drafod ei phryderon, yn dilyn ei chais am adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol ar y Polisi SARTH.   Cytunodd yr Hwylusydd i ddilyn hyn i fyny ar ôl y cyfarfod.    

 

            Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn mynegi pryder ei fod wedi gofyn am eitem o’r blaen ar y broses Dyraniadau ac nad oedd hyn wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.   Cafodd y cais hwn ei gymeradwyo gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Patrick Heesom. Ymddygiad er mwyn dangos dewisiadau sydd ar gael i Swyddogion Tai wrth ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd hwn wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a byddai’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ar 29 Ebrill 2020.    

 

            Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.