Mater - penderfyniadau
Appointment of a Lay Member to the Audit Committee
29/11/2019 - Appointment of a Lay Member to the Audit Committee
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar benodi aelod lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio, fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor Sir ar argymhelliad y Pwyllgor. Nododd yr adroddiad y broses ddethol a chyfweld a arweiniodd at y panel yn argymell penodi Allan Rainford, a oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Woolley a'i eilio gan y Cynghorydd Johnson. Croesawyd hyn gan y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell i'r Cyngor llawn y dylid penodi Allan Rainford i'r Pwyllgor Archwilio tan ddiwedd mis Rhagfyr 2023.