Mater - penderfyniadau

Corporate Parenting Strategy

01/11/2019 - Corporate Parenting Strategy

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad gan nodi mai Rhianta Corfforaethol oedd un o swyddogaethau pwysicaf y Cyngor ac roedd yn rhoi cymorth i rhwng 240 a 250 o bobl ifanc ar hyn o bryd. Cyfeiriodd yr Aelodau at y Crynodeb o Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol yn yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r gwaith roedd angen ei wneud i gryfhau a meithrin bywydau pobl ifanc. Rhoddodd wybodaeth am gynlluniau gweithredu y meysydd canlynol:-

 

·         Y cartref

·         Addysg a Dysgu

·         Iechyd a Lles

·         Hamdden

·         Cyfleoedd gwaith

·         Gadael gofal

·         Llais Plant sy’n Derbyn Gofal

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cymorth Cynghorydd Personol ar gael i bob unigolyn ifanc ac a oedd y swyddogion hyn bellach wedi dechrau ar eu swyddi. Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at Aura a’r cynnig o gerdyn aelodaeth i bobl ifanc am £22 y mis a oedd yn galluogi plant i gael mynediad at eu holl gyfleusterau, a gofynnodd a oedd hwn yn rhywbeth y gellid ei ystyried.

 

            Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) petai plentyn wedi derbyn gofal am fwy nag 13 wythnos yna byddai’n gymwys i gael cymorth Cynghorydd Personol pan fyddai rhwng 18 a 25 oed, a dywedodd fod 75 o bobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn cael cymorth ar hyn o bryd.  Roedd swyddi wedi bod yn wag ac esboniodd sut roedd y plant wedi cael cymorth yn ystod y cyfnod hwnnw, ond cadarnhaodd fod y 4 swydd wedi’u llenwi erbyn hyn. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) at gynnig y cerdyn Aelodaeth Ieuenctid gan gytuno fod hwn yn syniad da. Cadarnhaodd y byddai’n cael sgwrs am hyn gyda’r bobl ifanc.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch cyfleoedd gwaith, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y strategaethau a nodwyd yn yr adroddiad yn galluogi plant sy’n derbyn gofal i baratoi ar gyfer cyfleoedd gwaith cyn eu bod yn 18 oed. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) ragor o wybodaeth am y Cynllun Hwb, sef cynllun ar gyfer pobl rhwng 16 a 25 oed sy’n gadael gofal ac nad ydynt efallai’n barod eto i wneud cais am swyddi. Roedd y cynllun yn cynnig cymorth gyda sgiliau ymarferol er mwyn helpu unigolion ifanc i baratoi ar gyfer cyfweliadau a’r byd gwaith, fel ysgrifennu CV, sut i wisgo i’r gwaith, ateb y ffôn ac arferion y gweithle, cyn iddynt gael eu rhoi mewn cysylltiad â busnesau. 

 

            Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) at wasanaeth arall o’r enw ADTRAC (a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop) sy’n cynnig cymorth a hyfforddiant i’r bobl ifanc hynny roedd angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys iechyd meddwl a phecynnau wedi’u teilwra ar gyfer unigolion rhwng 16 a 24 oed. Roedd y gwasanaeth hwn yn ychwanegu at gynnig Cynllun Hwb.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylid cefnogi’r argymhelliad manwl yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cefnogi’r crynodeb o gamau i’w cymryd yn 2019/20 i gyflawni’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol.