Mater - penderfyniadau
Alternative Delivery Models Phase 2
24/12/2019 - Alternative Delivery Models Phase 2
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a gyflwynwyd i geisio cefnogaeth y Pwyllgor. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r rhestr o flaenoriaethau ac roedd yna hefyd gysylltiadau gyda Chynllun y Cyngor. Yna rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ar bob un o’r Modelau Cyflawni Amgen (ADM):-
· Gwasanaeth Monitro a Rheoli Teledu Cylch Cyfyng
· Theatr Clwyd.
· Gofal Micro (Gwasanaethau gofal cartref yn y gymuned)
· Gwasanaethau Masnachu Strydwedd a Chludiant
· Gwasanaethau Masnachu Cyfrif Refeniw Tai
· Menter Tlodi Bwyd
· Cwmni Ynni Gwyrdd
Gofynnodd y Cynghorydd David Wisinger y cwestiynau canlynol ar y profion MOT yn Alltami a chynnig i ddarparu gwasanaeth nwy a thrydan:-
· Oedd yna ddigon o le parcio i gleientiaid yn y Depo?
· A fyddai gwaith arall yn cael ei ystyried fel gwasanaethu cerbydau?
· Yngl?n â gwasanaethu nwy a thrydan a fyddai hyn yn cael ei wneud gan un swyddog?
Mewn ymateb i’r pwynt cyntaf, eglurodd y Prif Swyddog fod hyn yn parhau yn y camau cysyniad ond y cynnig oedd unwaith y byddai cerbydau’r Cyngor wedi gadael y depo yn y bore y byddai yna le ar gael i barcio yn y cefn wrth y gweithdy ar gyfer hyn. O ran y cwestiwn gwasanaethu ceir, dywedodd y byddai yna gyfleoedd i gynnwys gwaith arall ond nid oedd yn hysbys ar hyn o bryd gan fod y prosiect yn y cam cysyniad i’w ddatblygu ymhellach. Yngl?n â’r cynnig Gwasanaethu Nwy a Thrydan (Gwasanaethau Tai) dywedodd fod hyn eto yn y camau cynnar iawn ac y ceisir defnyddio a datblygu’r gwasanaeth o fewn y Sefydliad Llafur Uniongyrchol Tai. Dywedodd y Cynghorydd Wisinger fod hyn yn gam cadarnhaol iawn gan fod yna alw am y math yma o wasanaeth yn arbennig gan landlordiaid preifat.
Cyfeiriodd Geoff Collett at Theatr Clwyd a gofynnodd ai’r model arfaethedig oedd y mwyaf effeithiol o ran treth i’r Theatr. Cyfeiriodd at Sw Caer lle gofynnwyd i noddwyr arwyddo dogfen i alluogi’r Sw i hawlio 26% yn ôl gan y Llywodraeth. Nid oedd y Sw yn Fodel Ymddiriedolaeth Annibynnol ond gofynnwyd a fyddai’r Theatr yn gallu hawlio rhywfaint o dreth yn ôl fel y Sw.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r model yn galluogi’r Theatr i dderbyn buddion o’r Dreth Gorfforaeth a’r Dreth Ar Werth. Roedd yna gyfleoedd ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes, mynediad i gyllid elusennol ac alinio modelau cyflogaeth gyda theatrau eraill a fyddai hefyd yn fuddiol. Byddai hyn yn rhoi mwy o ryddid i’r Theatr gynllunio sut yr oeddent yn gweithredu. Roedd yna lawer o waith yn cael ei wneud ond byddai adroddiad manwl ar hyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn yr hydref.
Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am eglurhad ar y pwyntiau canlynol yngl?n â Model Cyflawni Amgen Gwasanaethau Masnachu Cyfrif Refeniw Tai
· A fyddai hyn yn cael ei sefydlu fel yr ADM Aura neu’n cael ei reoli gan y Cyngor?
· A fyddai hyn yn effeithio ar gyrff elusennol presennol eraill fel Gofal a Thrwsio ac a ellir ystyried partneriaeth gyda’r gweithredwyr hynny gan ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig nad oeddent dan anfantais?
· Yngl?n â chyflogi staff a allai fod yn faich ariannol anferth, cyfeiriodd at sut yr oedd Gofal a Thrwsio yn gweithredu drwy ddefnyddio masnachwyr lleol hunangyflogedig pan oedd angen. A fyddai hyn yn rhywbeth a ddefnyddir yn y model hwn yn arbennig os oedd yn sefydliad elusennol ac yn arbed arian?
Mewn ymateb i’r pwynt cyntaf nid oedd y Prif Swyddog yn rhagweld hyn mor fawr ag Aura ond gellir cynnig y gwasanaethau hynny a chreu rhywfaint o incwm i’r Cyfrif HRA. Cytunodd ei bod yn bwysig nad oedd sefydliadau eraill o dan anfantais ond dywedodd fod hon yn farchnad fawr ac nad oedd y sefydliadau hyn yn defnyddio’r holl agweddau. Roedd yna lawer o waith i’w wneud eto i sicrhau bod y Cyngor yn deall y farchnad, gyda chwmpas i ddatblygu ac yn gystadleuol. Yngl?n â’r trydydd pwynt, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r ADM hwn yn galluogi defnyddio’r staff DLO presennol gyda’r posibilrwydd o allu tyfu ac ymestyn i farchnad newydd a chyffrous.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Jones at y Cwmni Ynni Gwyrdd ac roedd ganddo amheuon y byddai Sir y Fflint yn ddigon mawr i symud ymlaen gyda hyn. Darparodd wybodaeth ar y cynlluniau ym Mryste a Nottingham oedd yn ddinasoedd mawr gyda chronfeydd mwy a gofynnwyd a oedd cynlluniau mewn awdurdodau eraill wedi eu hystyried. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod prosiectau eraill wedi eu hymchwilio a bod y dyluniad wedi’i ystyried yn ofalus gyda Sir y Fflint yn dilyn llwybr gwahanol. Darparodd wybodaeth ar brosiect Ynni Robin Hood yn dweud fod yna lawer o berygl o amgylch y model hwnnw a gallai Sir y Fflint werthu ynni yn ôl i’r grid oedd yn lwybr mwy diogel gyda chyfradd wedi’i warantu. Ychwanegodd fod gwaith yn parhau i archwilio a nodi pa fodel i’w ddefnyddio, ond bod y prosiect hwn yn y cam cysyniad ar hyn o bryd. Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl cyrraedd cam dau.
Yna gofynnodd y Cynghorydd Johnson a oedd trafodaethau wedi eu cynnal gydag awdurdodau cyfagos efallai drwy’r Cynnig Twf Economaidd Gogledd Cymru yr oedd yn teimlo fyddai’n well llwybr i’w gymryd gyda mwy o sail cwsmer. Hefyd gofynnodd a gynhaliwyd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru (LlC) gan y gall Sir y Fflint fod yr awdurdod cyntaf i wneud hyn yng Nghymru. Mewn ymateb, cytunodd y Prif Swyddog gyda sylw’r Cynghorydd Johnson yngl?n â chydweithio gydag awdurdodau cyfagos yn dweud bod yna botensial a chyfleoedd i Ogledd Cymru ddatblygu ac archwilio hyn o fewn y fargen dwf. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn ymwneud yn helaeth â’r Fargen Dwf ond roedd yn teimlo y byddai trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ac efallai y bydd yna gyfleoedd am gymorth grant ar gyfer prosiectau arloesi a allai yrru hyn ymlaen.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad fod Awdurdodau Gogledd Cymru yn caffael eu hynni gyda’i gilydd fel consortiwm rhanbarthol i gael cyfradd well ac o fis Hydref byddai hyn o ffynonellau adnewyddadwy. Roedd Sir y Fflint wedi newid i oleuadau stryd LED oedd wedi creu arbediad a ailfuddsoddwyd yn y gwasanaeth. Roedd y Cynghorydd Johnson yn teimlo fod hon yn stori gadarnhaol y dylid ei hybu mwy ar y wefan. Cytunodd yr Aelod Cabinet gan ddweud fod Sir Ddinbych yn ei hybu ar eu tudalennau Twitter a Facebook.
Yna rhoddodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad ar y Gr?p Trafnidiaeth Rhanbarthol oedd yn bwydo i mewn i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru adroddiad lle trafodwyd pwyntiau gwifro trydanol i sicrhau bod costau’n cael eu rhannu’n rhanbarthol. Roedd swyddog o’r Grid Cenedlaethol wedi mynychu’r cyfarfod i leisio eu pryderon yngl?n â lle byddai’r pwyntiau gwefru hyn yn cael eu lleoli gan y byddai hyn yn effeithio ar y galw ar y grid. Roedd yna gyllid ar gael ar gyfer hyn ac roedd y gr?p hefyd yn edrych ar gael yr ynni o Barc Adfer. Roedd p?er hydrogen hefyd yn cael ei ymchwilio gyda’r hydrogen mewn tanceri ac yna ei ddefnyddio fel tanwydd,
Roedd y Cadeirydd yn canmol yr Aelodau am eu cyfraniad a dywedodd fod y Cwmni Ynni Gwyrdd yn symud yn gyflym gyda chyfleoedd diddiwedd. Roedd y pwyllgor hwn yn edrych ar syniadau gyda meddwl agored ac roedd yna gyfleoedd hanfodol y gellir eu harchwilio i sicrhau nad oedd technolegau newydd yn cael eu methu.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi ail gam y rhaglen Model Cyflawni Amgen; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau pellach, ynghyd â’r Cabinet, sy’n gwerthuso pob un o’r modelau gwasanaeth arfaethedig ar gyfer ystyriaeth fwy manwl cyn unrhyw benderfyniad ffurfiol ar eu dyfodol, gan nodi bod llawer o’r modelau wedi datblygu a bod un (y Gwasanaeth Monitro Teledu Cylch Cyfyng) wedi derbyn cymeradwyaeth ymlaen llaw ac ar wahân.