Mater - penderfyniadau

Fees and Charges

19/12/2019 - Fees and Charges

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig fframwaith polisi a oedd yn cynnwys strwythur codi taliadau cyson ar draws pob maes gwasanaeth.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata bod canlyniad yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau wedi’i gyflwyno yn Atodiad A yr adroddiad.  Amlinellwyd y graddau yr oedd costau llawn yn cael ei adfer ar gyfer pob tâl.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig dull o fynegeio’r holl ffioedd a thaliadau yn flynyddol.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth)  ei bod wedi bod yn uchelgais ers tro i grynhoi’r holl ffioedd a thaliadau mewn un lle ac i’w hadolygu’n flynyddol.  Roedd y llifoedd incwm newydd a nodwyd yn yr adroddiad yn rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

                        Cynigiwyd i gynyddu’r tâl am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd o rhwng £2 i £5 y tymor, yn ddibynnol ar y dull talu a ddewiswyd a’r dyddiad y derbyniwyd y taliad gan y Cyngor.  Roedd hyn yn adlewyrchu’r gost gynyddol o ddarparu’r gwasanaeth a byddai’n cynyddu’r lefelau incwm arfaethedig o rhwng £70,000 a £130,000 y flwyddyn.

 

Roedd tâl arfaethedig ar gyfer y Pecynnau Seremonïau Bwyd/Diod newydd o dan y Gwasanaethau Cofrestru.  Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn cynhyrchu incwm ychwanegol o tua £580 yn 2019/20 a £850 yn 2020/21.

 

                        Byddai’r tâl newydd ar gyfer ar gyfer trosglwyddo gweinyddiaeth perchnogaeth beddau yn cael ei gadarnhau.  Fodd bynnag, roedd taliadau cymharol mewn Cynghorau eraill yn amrywio o £30 i £55 ar gyfer y gwasanaeth.  Yn seiliedig ar y galw presennol, byddai cyflwyno tâl o £30 yn cynhyrchu tua £15,600 y flwyddyn a byddai tâl o £55 yn codi £28,600 y flwyddyn.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Bithell y dylai’r gwasanaethau disgresiynol gael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru am nad oedd awdurdodau lleol yn derbyn cyllid digonol mwyach i ariannu materion o’r fath.  Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod taliadau o’r fath yn cael eu gorfodi ar y Cyngor oherwydd y cyni parhaus ac roedd y Cyngor yn cydnabod yr effaith ar y cyhoedd.  Pwysleisiodd bod y gwasanaethau yn cael eu cynnig er mwyn adennill costau ac nid er mwyn creu elw, gyda mynegeio synhwyrol.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       I gymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a amlinellwyd yn Atodiad A;

 

(b)       I gymeradwyo’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr, fel y mynegai chwyddiant blynyddol i’w defnyddio ar gyfer cynyddu ffioedd a thaliadau pan fydd yn briodol gwneud hynny (neu gyfradd y farchnad/cymharol/dewis pan fydd yn berthnasol) ynghyd â’r cyfnod gweithredu chwyddiant arfaethedig a nodir yn Atodiad A;

 

(c)        Bod angen gwaith pellach i sefydlu a fyddai’n bosibl adennill y costau llawn (adfer costau uniongyrchol ac anuniongyrchol) ar gyfer yr holl wasanaethau i’w cefnogi, pan ganiateir iddynt wneud hynny;

 

(d)       I gymeradwyo adolygiad pellach o’r Polisi Cynhyrchu Incwm presennol, gyda’r bwriad i ddatblygu fframwaith polisi ar gyfer cynhyrchu incwm, i gynnwys strwythur codi taliadau ac adennill costau cyson;

 

(e)       I gymeradwyo adolygiad blynyddol o’r ffioedd a’r taliadau, gan gynnwys adroddiad blynyddol ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, gan nodi’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar gyfer pob gwasanaeth, a gyflwynir o 1af Hydref yn yr un flwyddyn; a

 

(f)        I nodi’r prosiectau incwm ychwanegol a nodwyd yn Atodiad B, a chymeradwyo’r dyddiadau dechrau arfaethedig ar gyfer pob un