Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2018/19 (Outturn)

19/12/2019 - Revenue Budget Monitoring 2018/19 (Outturn)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Alldro) a oedd yn darparu’r sefyllfa ar gyfer 2018/19 o ran y Cyfrif Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

                        Roedd y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:

 

            Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o £0.608 miliwn (£0.931 miliwn ym Mis 11); a

·         Balans Cronfa Wrth Gefn ar 31ain Mawrth 2019 o £8.252 miliwn sydd, wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer 2019/20 yn lleihau’r gyllideb i £6.031 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Y gwariant net yn ystod y flwyddyn oedd £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a

·         Balans terfynol heb ei glustnodi ar 31ain Mawrth 2019 o £1.165 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion: cyflawni arbedion arfaethedig yn ystod y flwyddyn; trosolwg o’r flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; cronfa wrth gefn y cyngor sydd wedi’i neilltuo 2018/19 a cheisiadau i gario cyllid ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid nodi’r adroddiad cyffredinol a swm wrth gefn Cronfa’r Cyngor ar 31ain Mawrth 2019;

 

(b)       Y dylid nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai ar 31ain Mawrth 2019; a

 

            (c)        I gymeradwyo’r ceisiadau i gario cyllid ymlaen.