Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2018/19 (Outturn)
19/12/2019 - Revenue Budget Monitoring 2018/19 (Outturn)
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Alldro) a oedd yn darparu’r sefyllfa ar gyfer 2018/19 o ran y Cyfrif Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
· Gwarged gweithredol o £0.608 miliwn (£0.931 miliwn ym Mis 11); a
· Balans Cronfa Wrth Gefn ar 31ain Mawrth 2019 o £8.252 miliwn sydd, wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer 2019/20 yn lleihau’r gyllideb i £6.031 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Y gwariant net yn ystod y flwyddyn oedd £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a
· Balans terfynol heb ei glustnodi ar 31ain Mawrth 2019 o £1.165 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion: cyflawni arbedion arfaethedig yn ystod y flwyddyn; trosolwg o’r flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; cronfa wrth gefn y cyngor sydd wedi’i neilltuo 2018/19 a cheisiadau i gario cyllid ymlaen.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi’r adroddiad cyffredinol a swm wrth gefn Cronfa’r Cyngor ar 31ain Mawrth 2019;
(b) Y dylid nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai ar 31ain Mawrth 2019; a
(c) I gymeradwyo’r ceisiadau i gario cyllid ymlaen.