Mater - penderfyniadau

Discretionary Transport Policy Review - Outcome of Consultation

15/08/2019 - Discretionary Transport Policy Review - Outcome of Consultation

Croesawodd y Cadeirydd MrsJane Cooper, Mr Steve Jackson a Mr Alex Thomas i’r cyfarfod.

 

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad yn rhoi adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant dewisol i’r ysgol a’r coleg ac yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael. Gwahoddwyd y Rheolwr Ysgolion – Cynllunio a Darpariaeth i gyflwyno’r adroddiad.

 

            .     Dywedodd y Rheolwr Ysgolion bod y Cabinet wedi cytuno ar amrywiaeth o opsiynau i ymgynghori’n ffurfiol yn eu cylch mewn perthynas â'r mater o gludiant dewisol i'r ysgol a’r coleg i ddisgyblion ôl-16. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 18 Chwefror a 5 Ebrill 2019.  Mae’r adroddiad yn crynhoi canlyniadau’r ymgynghoriad. Siaradodd y Rheolwr Ysgolion am yr ystyriaethau allweddol fel sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac eglurodd bod yr opsiynau a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, yn unol â chytundeb y Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018,  i'w gweld yn llawn yn atodiad 2 i'r adroddiad gyda chrynodeb o'r ymatebion a gafwyd.

I gloi, dywedodd y Rheolwr Ysgolion pe bai’r Pwyllgor yn cytuno ar unrhyw opsiynau newydd yn y cyfarfod, yna byddai angen cyfnod newydd o ymgynghori er mwyn ystyried y cynigion a wnaed.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Cooper, MrJackson a Mr. Thomas i roi gwybod i'r Pwyllgor beth yw eu barn am ganlyniadau'r ymgynghoriad fel sydd i'w gweld yn yr adroddiad. 

 

Diolchodd MrsCooper, ar ran y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd, i’r Pwyllgor am y cyfle i gyflwyno safbwyntiau Penaethiaid Uwchradd mewn ymateb i’r adolygiad o’r polisi cludiant i’r ysgol/coleg dewisol a'r opsiynau sydd ar gael. Dywedodd bod y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn deall y pwysau ariannol y  mae costau perthnasol i gludiant ysgolion yn eu hachosi a’r angen i gau 'bwlch' ariannu'r Cyngor, ond maen bwysig annog pob dysgwr dros 16 i barhau â'u  haddysg a'u cefnogi i wneud hynny drwy eu galluogi i fynd i leoliad o'u dewis nhw e.e.addysg ôl-16 mewn ysgol neu goleg. Aeth yn ei blaen i ddweud er ei bod yn bwysig bod dysgwyr yn cael cludiant am ddim i’w lleoliad ôl-16, mae’n bwysicach fyth bod cludiant ar gael ar draws Sir y Fflint, hyd yn oed ar gost bychan i rieni, er mwyn  galluogi  myfyrwyr i barhau mewn addysg ôl-16 a gwneud eu dewis eu hunain o ran lle i fynd, Roedd y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn cefnogi'r opsiwn o godi tâl ar rieni ond bod hwnnw'n cael ei gadw ar lefel isel er mwyn gallu parhau i ddarparu cludiant ar gyfer myfyrwyr. 

 

 Cyfeiriodd MrsCooper at bryderon y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd y byddai sawl canlyniad pe rhoddid y gorau i'r cludiant gan gynnwys mwy o dagfeydd traffig o amgylch ysgolion oherwydd y cynnydd mewn cerbydau preifat yn cludo plant. Dywedodd ei bod yn bwysig annog myfyrwyr i barhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus i deithio i ac o’r ysgol. I gloi dywedodd MrsCooper er mai dymuniad y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd fyddai cadw at y drefn sydd ohoni ond eu bod yn cydnabod y pwysau ariannol sydd ar y Cyngor ac felly’n ystyried y byddai parhau i ddarparu cludiant i fyfyrwyr am bris isel yn gyfaddawd rhesymol.   

 

Diolchodd Mr Jackson ar ran Coleg Cambria am y cyfle i Goleg Cambria fod yn rhan o’r broses ymgynghori a siaradodd am y gwaith ar y cyd y mae Coleg Cambria, y Cyngor a GwE wedi bod yn ei wneud ar rwydwaith o ddarpariaeth cludiant. Dywedodd bob cludiant am ddim i fyfyrwyr ôl-16 yn bwysig er mwyn rhoi dewis i ddysgwyr, sydd yn ei dro yn effeithio ar y gallu i gadw myfyrwyr mewn addysg ac ar eu cyfranogiad a’u cyrhaeddiad. Cyfeiriodd at y broblem o fyfyrwyr yn gadael addysg ac yn cael eu dosbarthu fel  NEET – ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a dywedodd bod cynnig dewis eang o opsiynau cludiant yn helpu myfyrwyr i ail-ymgysylltu ag addysg. Mynegodd bryderon am yr isadeiledd cludiant lleol gan ddweud bod rhinwedd a chryfder mewn cynnal y rhwydwaith cludiant presennol a phe bai Coleg Cambria yn ddibynnol dim ond ar gludiant lleol y byddai hynny’n arwain at gryn rwystrau a heriau o ran dewis myfyrwyr o leoliadau astudio. Aeth Mr Jackson yn ei flaen i ddweud bod y trefniant cludiant a ddarperir ar hyn o bryd yn wasanaeth mwy cynaliadwy sy’n cefnogi dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ceisio cyfyngu ar nifer y cerbydau sy'n teithio i sefydliadau addysgol drwy wneud defnydd cynyddol o gludiant cyhoeddus. 

 

 I gloi dywedodd MrJackson mai dewis Coleg Cambria fyddai cadw'r drefn sydd ohoni heb godi unrhyw dâl am gludiant ar fyfyrwyr, fodd bynnag roedd yn derbyn yr heriau ariannol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus ac os penderfynir codi am gludiant i'r ysgol/coleg yna byddai Coleg Cambria am weld y taliadau'n cael eu cyflwyno fesul cam, bod y costau'n cael eu cadw ar lefel fforddiadwy a bod teuluoedd incwm isel yn cael cefnogaeth barhaus.

 

 Dywedodd Mr Thomas ei fod yn cefnogi safbwyntiau a phryderon Mrs Cooper a Mr Jackson. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg mai gwasanaeth anstatudol yw darpariaeth cludiant i’r ysgol/coleg ac mai’r Awdurdod sy’n talu amdano. Dywedodd bod nifer o Awdurdod Lleol nad ydynt yn darparu cludiant ac eglurodd y gallai unrhyw argymhellion y bydd y Pwyllgor yn eu gwneud i'r Cabinet  effeithio ar lefel  Treth y Cyngor y bydd y Cyngor yn ei osod yn y dyfodol. Cyfeiriodd at yr enghreifftiau o daliadau am gludiant ôl-16  a welir yn atodiad 2, gan gyfeirio at yr enghraifft o £100 y tymor, sydd gyfwerth â £1 y siwrnai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Collett am arbedion cost, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y manylion am yr arbedion cost posibl sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Mr David Hytch ei fod yn cydnabod yr ymdrechion yr oedd y Cyngor wedi eu gwneud i ddiogelu cyllidebau ysgolion hyd eithaf ei allu yn y blynyddoedd diweddar, ond mynegodd bryderon am y posibilrwydd y gallai codi tâl am gludiant gynyddu’r nifer o bobl ifanc NEET, a gofynnodd a oedd rhieni’n gorfod talu ddwywaith o  ystyried y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Gofynnodd hefyd a ystyriwyd cost gweinyddu taliadau am gludiant ysgol gan gyfeirio at y cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddigwyddodd yn sgil codi am y gwasanaeth cerdd. 

 

Roedd y Cynghorydd Kevin Hughes yn cytuno â sylwadau MrHytch a chododd yntau hefyd bryderon am y posibilrwydd y bydd myfyrwyr yn gadael y system addysg. Gofynnodd, pe bai tâl yn cael ei godi, am iddo gael ei gadw mor isel â phosibl.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at benderfyniad blaenorol Cyngor i gau darpariaeth ôl-16 mewn rhai ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint ac roedd yn teimlo ei bod yn annheg codi tâl ar ddisgyblion nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond teithio i sefydliadau addysgol eraill ar gyfer eu haddysg ôl-16. Cododd bryderon hefyd am y gost i grwpiau o rodyr a chwiorydd a gofynnodd am i hynny’n cael ei adolygu. Eglurodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg y cymerwyd y penderfyniad i gau darpariaeth ôl-16 mewn rhai ysgolion uwchradd am eu bod yn anghynaliadwy  oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion. 

 

Gofynnodd MrsRebecca Stark a ellid ystyried consesiynau ar gyfer teuluoedd gyda mwy nag un plentyn yn cael addysg ôl-16. Holodd hefyd a fyddai swydd 0.5 yn ddigon i weinyddu’r cynllun taliadau a sut y byddai hyn yn gweithio ar lefel ymarferol. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd pe bai'r Cabinet yn argymell cyflwyno tâl am gludiant yna bydd niferoedd disgyblion ar gyfer addysg ôl-16 yn cael ei fonitro’n ofalus a gellid darparu rhagor o adroddiadau diweddaru i’r Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiynau am grwpiau o frodyr a chwiorydd byddai angen gofyn am ragor o gyngor am gonsesiynau cyn i’r Cabinet wneud penderfyniad.

 

Cododd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon am rieni nad yw eu hincwm yn cyrraedd y trothwy i hawlio budd-dal ac na fyddent felly’n gallu cael cymorth ariannol. Roedd yn bryderus y byddai hyn yn cael effaith negyddol o safbwynt tlodi plant. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 Llywodraeth Cymru, sydd i’w chroesawu, ond cododd bryderon nad oes unrhyw arian wedi dod i Awdurdodau Lleol i’w helpu i gwrdd â gofynion y Ddeddf a fyddai wedi helpu gyda chostau cludiant i ddisgyblion. Gofynnodd hefyd ym mha ffordd y byddai’r tâl yn cael ei godi ar rieni.

 

Cytunodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg â’r sylwadau a rhoddwyd enghreifftiau o benderfyniadau polisi LlC a oedd wedi cael effaith gyllidol ar Awdurdodau Lleol heb  fod unrhyw arian ychwanegol ar gael ar gyfer hynny. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai'n bwysig ystyried gallu rhieni i dalu ac na fyddai'r Cyngor yn disgwyl i rieni dalu ffi flynyddol ond yn hytrach talu bob tymor. Os yw’r Cabinet yn argymell cyflwyno tâl, gellid rhoi manylion am sut y byddai hyn yn cael ei weithredu i’r Pwyllgor.  

 

            Gofynnodd Mrs Stark a fu unrhyw gyd-lobio er mwyn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru gyda chostau cludiant i'r ysgol. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn ymwybodol o unrhyw lobio am gludiant ysgol yn benodol ond bu llawer iawn o lobio am gyllido gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Roedd y cydnabod yr heriau a wynebir wrth geisio diogelu cyllid ysgolion ac roedd yn rhannu pryderon yr aelodau yngl?n a'r effeithiau posibl ar bobl ifanc.

 

            Amlinellodd y Cynghorydd Tudor Jones nifer o senarios yr oedd yn teimlo nad oeddent wedi cael yr ystyriaeth briodol h.y. a fyddai yna un tâl safonol ac a ellid gostwng  hwn os nad yw disgybl yn teithio i'w cyfleuster addysg ôl-16 yn ddyddiol, a'r gost i grwpiau o frodyr a chwiorydd. Am y rhesymau hyn roedd yn teimlo y byddai cyflwyno tâl yn creu biwrocratiaeth ddiangen gan ddweud y dylid cadw’r drefn sydd ohoni.    

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman a ellid ystyried cysylltu â busnesau lleol i ofyn os hoffent hysbysebu eu busnesau ar fysus ysgol gyda’r arian a godir drwy wneud hynny yn cael ei ddefnyddio i helpu tuag at gostau cludiant ysgol. Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom o blaid yr awgrym hwn fel ffrwd ariannu amgen. Cyfeiriodd at waith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth leol ac anogaeth LlC i Awdurdodau Lleol ddod o hyd i arian drwy ddulliau amgen.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at y ffaith nad oes digon o wybodaeth yngl?n ag o ble y mae disgyblion sy’n teithio i Goleg Cambria yn dod. Dywedodd ei fod wedi bod yn ystyried opsiynau amgen ac awgrymodd y gellid defnyddio Gwasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy i gludo disgyblion in Goleg Cambria. Awgrymodd hefyd yr opsiwn o greu gorsaf drenau yng Nghei Connah a fyddai'n gwella mynediad i Goleg Cambria a darpariaeth addysg ol-16 ehangach yn y dyfodol.  

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan MrsRita Price am asesiadau o effaith ar gydraddoldeb rhoddodd y Rheolwr Ysgolion – Cynllunio a Darpariaeth sicrwydd i’r Pwyllgor bod yr holl asesiadau o effaith ar gydraddoldeb wedi eu cwblhau.

 

            Yn dilyn ei sylwadau cynharach cynigiodd y Cynghorydd Heesom y dylid gofyn i'r Cabinet oedi ystyried cyflwyno tâl am gludiant ysgol/coleg ôl-16 er mwyn cael cyfle i adolygu'r opsiynau o ran cyflwyno ffrydiau cyllido amgen. Eiliwyd y cynnig hwnnw.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog oblygiadau oedi penderfyniad y Cabinet a’r cyfnod o rybudd y mae'n ofynnol ei roi i rieni. Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg y gallai oedi’r penderfyniad gael effaith ar gyllideb 2020/21. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin er ei fod yn cydnabod y cynnig a’r awgrym a wnaed gan y Cynghorwyr Heesom a Bateman, roedd yn bryderus na fyddai modd dod o hyd i gyllid ar y lefel sy'n angenrheidiol i ddiwallu costau darpariaeth cludiant ôl-16 erbyn Gorffennaf 2019.

 

            Cafwyd pleidlais ac ni chefnogwyd cynnig y Cynghorydd Heesom.

 

            Yn dilyn trafodaeth cefnogodd y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

  • Bod y Pwyllgor y cefnogi Opsiwn 3 fel sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad;
  • Parhau i ddarparu cludiant ôl-16 am ddim i’r rhai sydd â hawl i fudd-dal; a
  • Bod y Cabinet yn ystyried consesiynau ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd sydd mewn addysg ôl-16.

 

            Diolchodd y cadeirydd i’r Pwyllgor, y swyddogion a'r gwesteion am eu cyfraniad i’r drafodaeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:

  • Bod y Pwyllgor y cefnogi Opsiwn 3 fel sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad;
  • Parhau i ddarparu cludiant ôl-16 am ddim i’r rhai sydd â hawl i fudd-dal; a
  • Bod y Cabinet yn ystyried consesiynau ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd sydd mewn addysg ôl-16.