Mater - penderfyniadau

Council Plan 2019/20

28/06/2019 - Council Plan 2019/20

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2019/20, ac esboniodd fod y Cynllun wedi cael ei adolygu, a'i strwythur a'i gynnwys wedi'u hailwampio, gan symud i ffwrdd oddi wrth 'Gynllun Gwella' tuag at gynllun o natur fwy corfforaethol.  Roedd hyn yn adlewyrchu rhywfaint o'r bwriad y tu ôl i'r Mesur Llywodraeth Leol newydd a oedd yn disodli'r Mesur mwy rhagnodol a gafwyd yn 2009.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y cynllun bellach yn fwy cyflawn am ei fod yn cynnwys rhai o'r gwasanaethau gweithredol proffil uwch yr oedd y Cyngor yn ceisio eu gwarchod, fel Gwasanaethau Stryd a Diogelu'r Cyhoedd.  Yr oedd gofyn i'r Aelodau gymeradwyo amlinelliad o'r cynnwys heddiw, a byddai Rhannau 1 a 2 yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Sir i'w mabwysiadu ym mis Mehefin.

 

            Roedd prif strwythur y Cynllun wedi'i gadw yr un peth â'r hyn a gafwyd mewn cynlluniau blaenorol, ond bellach yn cynnwys thema ychwanegol, gan greu cyfanswm o saith â blaenoriaethau ategol.  Roedd y saith thema yn parhau i fwrw golwg hirdymor ar uchelgais a gwaith dros y tair blynedd nesaf.

 

            Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu fod gwaith yn mynd rhagddo'n dda o ran effeithiau mwy hirdymor pob is-flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor, a'r camau gweithredu yn ystod y flwyddyn. Byddai'r gwaith manwl hwnnw yn cael ei rannu â'r Aelodau drwy gynnal trafodaeth anffurfiol â Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a chynnal gweithdy i'r Aelodau.

 

            Roedd y Cynghorwyr Thomas a Butler yn croesawu'r thema newydd, a'r flaenoriaeth o sicrhau 'Cymunedau Diogel a Glân'.  Soniodd y Cynghorydd Thomas hefyd am bwysigrwydd thema'r 'Cyngor Gwyrdd' a'r is-flaenoriaeth Teithio Egnïol a oedd yn gysylltiedig â llesiant plant.

 

Roedd y Cynghorydd Jones yn falch o weld is-flaenoriaeth 'iechyd a llesiant - cynllun y gweithlu', a dywedodd fod y cynllun hwnnw'n hanfodol i weithwyr y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r amlinelliad o gynnwys Cynllun y Cyngor 2019/20 Rhan 1, a chynnwys yr holl is-flaenoriaethau; a

 

(b)       Cymeradwyo'r amserlen ar gyfer mabwysiadu Rhannau 1 a 2 o Gynllun y Cyngor 2019/20.