Mater - penderfyniadau

Review of Procurement Strategy

03/01/2020 - Review of Procurement Strategy

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar yr Adolygiad o’r Strategaeth Gaffael ac esboniodd, er fod y strategaeth yn weithredol o 2016 i 2021, gwnaethpwyd rhai newidiadau yng nghyd-destun y polisi ehangach a oedd yn cyfiawnhau cynnal adolygiad r?an. 

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y newidiadau sylweddol ers mabwysiadu’r strategaeth fel a ganlyn:

 

1.    Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi ac roedd y Cyngor yn ei ddilyn;

2.    Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel, a oedd yn ymrwymo’r sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030; a

3.    Mae’r Cyngor wedi diwygio ei ddull ei hun o ran cyflawni gwerth cymdeithasol o gaffael drwy fabwysiadu polisi gwerth cymdeithasol newydd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Roedd rhaid i’r newidiadau hynny gael eu hadlewyrchu o fewn y Strategaeth Gaffael a'r mesuryddion perfformiad o fewn y Strategaeth.

 

Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad, yn enwedig ymrwymiad y Cyngor i Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel a oedd yn ymrwymo’r sector cyhoeddus i ddarparu arweinyddiaeth ar leihau effaith dyn ar newid hinsawdd drwy leihau ei ôl troed carbon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’n gofyn i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a oedd y nod i geisio cynyddu’r effaith yr oedd gwariant yn ei gael o fewn yr economi leol drwy gyfeirio gwariant i fusnesau o fewn Sir y Fflint ac yn ehangach o fewn yr ardal ddaearyddol o Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, yn ddwyochrog.  

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Mabwysiadu’r Strategaeth Gaffael ddiwygiedig; a

 

 (b)      Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno yn ôl i’r Cabinet ar y newidiadau arfaethedig i’r Strategaeth Gaffael er mwyn lleihau ôl troed carbon y Cyngor.