Mater - penderfyniadau

Housing Strategy and Action Plan

03/01/2020 - Housing Strategy and Action Plan

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar Y Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu ac esboniodd fod Y Strategaeth Tai yn adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd drwy’r strategaeth flaenorol, ac yn nodi gweledigaeth y Cyngor ‘i weithio gyda budd-ddeiliaid allweddol i hysbysu a darparu‘r math cywir o dai o safon a’r gefnogaeth fwyaf addas i ddiwallu anghenion ein poblogaeth’.

 

            Roedd y Strategaeth yn nodi 3 blaenoriaeth gyda meysydd allweddol i’w gweithredu o fewn pob blaenoriaeth. Sef:

 

            Blaenoriaeth 1: cynyddu cyflenwad i ddarparu’r math cywir o dai yn y lleoliad cywir drwy adeiladau newydd, defnyddio’r sector rhentu preifat, a gwneud gwell defnydd o’r stoc bresennol.

 

            Blaenoriaeth 2: cynnig cefnogaeth i sicrhau fod pobl yn byw ac yn aros yn y mathau cywir o dai drwy gymorth a fydd yn atal pobl ddiamddiffyn rhag bod yn ddigartref a’u cynnal yn eu cartrefi eu hunain.

 

            Blaenoriaeth 3: gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein tai yn cynnwys mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy fesurau effeithlonrwydd ynni.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am bwysigrwydd y ddogfen a diolchodd i’r swyddog a oedd wedi paratoi’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog fod yr Asesiad Anghenion O Ran Tai yn penderfynu beth oedd ei angen o fewn ardal benodol ac roedd hynny’n cysylltu â’r Cynllun Datblygu Lleol i sicrhau bod y gymysgedd o dai yn gywir.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd unrhyw beth y gallai’r Cyngor ei wneud i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd. Esboniodd y Prif Swyddog fod llawer o waith eisoes wedi’i wneud i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ond roedd yn heriol iawn.  Mewn perthynas â chwestiwn pellach gan y Cynghorydd Bithell ar dai ar gyfer unigolion gydag anghenion arbennig penodol a oedd yn byw gyda rhieni oedrannus, roedd elfen yn y gofrestr tai a oedd yn cynnwys y manylion hynny a cheisiwyd llety addas ar yr adeg briodol. Roedd y gwasanaeth yn gweithio’n agos â chydweithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi’r anghenion hynny.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a mabwysiadu’r Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2019/2024.