Mater - penderfyniadau
Investment and Funding Update
01/10/2019 - Investment and Funding Update
Amlygodd Mrs Fielder y prif feysydd sef y cyfrifoldebau a ddirprwywyd a throsglwyddo asedau i’r gronfa. Roedd gofynion llif arian ym mis Rhagfyr 2018 ac felly mae’r Gronfa wedi adbrynu £10 miliwn o'r sicrwydd cyfochrog o fewn mandad Insight. Mae llif arian yn parhau i gael ei fonitro.
Dywedodd Mrs Fielder hefyd wrth y pwyllgor am gynllun prisiad actiwaraidd 2019 a’r amserlenni.
Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Fielder a'i thîm am barhau i reoli'r adran er y swyddi gwag.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor wedi ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfrifoldebau dirprwyedig a’u nodi, yn ogystal â rhoi sylwadau.
(b) Bod y Pwyllgor wedi nodi’r amserlenni ar gyfer cynllun prisiau 2019 ac yn deall y meysydd lle bydd angen cymeradwyaeth y Pwyllgor.