Mater - penderfyniadau

Parenting Strategy

18/04/2019 - Parenting Strategy

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithle, yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Fframwaith Strategaeth Rhianta Sir y Fflint a’r gwaith a wneir i ddarparu cefnogaeth rhianta o ansawdd a sy’n gyson ar draws Sir y Fflint gan gymryd i ystyriaeth y cynigion ariannu yn y dyfodol o ran hyblygrwydd cyllid a’r canlyniadau gofynnol. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr y Rheolwr Gwasanaeth, y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd, a gwahoddodd hi i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybodaeth gefndir ac eglurodd fod dwy Strategaeth Rianta wedi eu cyhoeddi yn Sir y Fflint ers 2007 gyda Strategaeth Rhianta Sir y Fflint wedi ei lansio yn 2018 (wedi ei atodi i’r adroddiad).Mae’r Fframwaith Rhianta yn rhoi manylion yngl?n â chynaliadwyedd a datblygiadau pellach rhaglenni rhianta ac mae’n ffurfio rhan o strategaeth ehangach ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal yn Sir y Fflint. Goruchwyliwyd y gwaith gan y Gr?p Strategol aml asiantaeth Rhianta yn Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y gwaith yn Sir y Fflint ochr yn ochr â Rhianta yng Nghymru, canllawiau ar ymgysylltu a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Roedd llwyddiant y Strategaethau a'r Fframwaith mewn galluogi cefnogaeth rhianta o ansawdd da o ganlyniad i alinio'r polisi gyda gweithredu yn lleol, cyllid pwrpasol, rôl cydlynydd rhianta pwrpasol, trosolwg strategol drwy’r gr?p aml asiantaeth Rhianta yn Sir y Fflint a’r cydweithio rhwng nifer o wasanaethau i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth rhianta o ansawdd.

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am y prif ystyriaethau, fel nodwyd yn yr adroddiad, yn ymwneud â'r Strategaeth Rhianta, cyd-destun polisi.

 

Manteisiodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cyfle i ddarllen llythyr o gefnogaeth gan yr Athro Judy Hutchings, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor, i'r gwaith ar Fframwaith a Strategaeth Rhianta Sir y Fflint a gwaith y gr?p strategol aml asiantaeth, y rôl cydlynydd a’r canlyniadau. Hefyd mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ei llongyfarchiadau a’i gwerthfawrogiad i'r Rheolwr Gwasanaeth am y gwaith caled a'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd.

 

   Ceisiodd y Cynghorydd Gladys Healey gael sicrwydd fod cefnogaeth mewn lle i gynorthwyo teuluoedd aml ddiwylliannol ac y ceisir cymorth gan sefydliadau eraill i helpu gyda’r dasg hon.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y gallai iaith fod yn rhwystr a bod cefnogaeth yn cael ei ddarparu i oresgyn hyn.  Rhoddodd yr Ymarferydd Rhianta Arweiniol sicrwydd fod yr angen i ddarparu cefnogaeth aml ddiwylliannol yn ystyriaeth allweddol o fewn y Gwasanaeth a chyfeiriodd at yr adnoddau a’r cymorth a ddarparwyd mewn ieithoedd eraill.   Hefyd fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw ar yr angen i ddarparu cefnogaeth aml ddiwylliannol i fynd i’r afael â materion diogelu.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes pa gymorth oedd ar gael i neiniau a theidiau oedd â chyfrifoldeb fel prif ofalwyr dros eu hwyrion a'u hwyresau.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth tra nad oedd yna unrhyw raglen benodol ar gyfer neiniau a theidiau roedd pwysigrwydd eu rôl yn cael ei gydnabod ac roeddent yn cael eu croesawu a'u hannog i ymgysylltu gyda'r Gwasanaeth i sefydlu cysylltiadau ar draws y cenedlaethau.

           

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith rhianta hyd yma; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a’r gwaith a wneir i ddarparu cefnogaeth rhianta o ansawdd a sy’n gyson ar draws Sir y Fflint gan gymryd i ystyriaeth y cynigion ariannu yn y dyfodol o ran hyblygrwydd cyllid a’r canlyniadau gofynnol.