Mater - penderfyniadau

Social Value Strategy

25/06/2019 - Social Value Strategy

            Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad oedd yn cynnwys y dull ar gyfer creu gwerth cymdeithasol cynyddol o wariant y Cyngor.  Eglurodd bod Gwerth Cymdeithasol yn edrych y tu hwnt i gost ariannol gwasanaeth ac yn ystyried pa fudd ychwanegol y gellir ei greu ar gyfer y gymuned.  Byddai gweithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn elfen allweddol ar gyfer gweithredu Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol a galluogi'r Cyngor a phartneriaid i greu adnoddau newydd ar gyfer ffrydiau gwaith blaenoriaeth.

 

            Roedd y Rheolwr Menter ac Adfywio yn adrodd am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad ac yn cyfeirio at y golau tymor hir wrth weithredu’r Strategaeth.  Parhaodd gan ddweud bod y Strategaeth yn gosod meysydd blaenoriaeth ar gyfer creu gwerth cymdeithasol, yn seiliedig ar y rhai a amlygwyd yng Nghynllun Lles Sir y Fflint a Chynllun y Cyngor, gan helpu i greu adnoddau ychwanegol ar gyfer ffrydiau gwaith hanfodol.    Dywedodd bod adolygiad wedi’i gynnal i ddeall y sefyllfa llinell sylfaen wrth ddarparu gwerth cymdeithasol drwy gaffael oedd yn gatalydd pwysig ar gyfer datblygiad ehangach.  Roedd arferion presennol wedi datblygu’n dda lle roedd fframweithiau caffael yn cael eu defnyddio yn arbennig o fewn adeiladu.  Nid oedd y Strategaeth yn cynnig unrhyw drothwyon gorfodol newydd yn y broses gaffael o dan y trothwy £1 miliwn sydd eisoes yn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau ond mae’n herio rheolwyr gwasanaeth a swyddogion caffael i feddwl yn eang am y gwasanaethau a’r nwyddau sy’n cael eu caffael ac ystyried sut y gellir creu gwerth cymdeithasol ehangach.     

 

            Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y bwriedir cael swydd Swyddog Arweiniol newydd i weithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol, darparu cefnogaeth ddwys i swyddogion, cyflenwyr a phartneriaid a sicrhau bod y manteision yn cael eu gwireddu a’u cofnodi.  Byddai porthol meddalwedd un pwrpas hefyd yn cael ei greu i allu rheoli gwerth cymdeithasol ar draws y Cyngor a’i bartneriaid yn effeithiol a dangos cyflawniad yr egwyddorion yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Cynigiwyd bod hwn yn cael ei ddyrannu o arian wrth gefn am gyfnod o dair blynedd i alluogi’r systemau sefydlu a’r adenillion ar fuddsoddiad gael eu cyflawni.

 

            Cafodd y cynigion eu cefnogi’n gadarnhaol gan y Pwyllgor. 

 

            Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Geoff Collett, cytunwyd i archwilio sut byddai pwysau gwerthuso tendr, lle'r oedd cymal gwerth cymdeithasol wedi'i gynnwys, yn cael ei archwilio. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd bod angen sicrhau bod busnesau/masnachwyr lleol yn cael y cyfle i gyflwyno ceisiadau ac nid dan anfantais contractau Cymru gyfan neu rhanbarthol.  Hefyd mynegodd bryderon y gallai fod perygl o heriau cyfreithiol.  Yn dilyn trafodaeth bellach, cytunodd y Pwyllgor â’r awgrym gan y Cadeirydd bod y peryglon o heriau cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian wrth ystyried y cydbwysedd o ansawdd a chost yn y gwerthusiadau tendr yn cael eu hychwanegu at y gofrestr risg. 

 

            Yn dilyn y sylwadau a chwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau awgrymodd y Prif Weithredwr bod y posibilrwydd o Brifysgol Glynd?r fel partner academaidd ar gyfer dibenion gwerthuso effaith strategaeth yn cael ei ymchwilio. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol drafft yn cael ei gymeradwyo; 

 

(b)      Bod rhyddhau cyllid wrth gefn ar gyfer y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn cynnwys recriwtio swyddog arweiniol yn cael ei gymeradwyo; a

 

(c)        Bod y peryglon o heriau cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian wrth ystyried y cydbwysedd o ansawdd a chost yn y gwerthusiadau tendr yn cael eu hychwanegu at y gofrestr risg.