Mater - penderfyniadau
Pay Policy Statement for 2019/20
18/03/2019 - Pay Policy Statement for 2019/20
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Datganiad ar Bolisïau Tâl ac eglurodd fod gofyn i’r holl awdurdodau lleol gyhoeddi Datganiad ar Bolisïau Tâl yn flynyddol.Hwn oedd y seithfed datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan y Cyngor.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod yr Archwiliad Tâl Cyfartal wedi ei atodi i’r adroddiad er gwybodaeth.
Roedd y Datganiad ar Bolisïau Tâl yn ffurfio elfen allweddol o ymagwedd y sefydliad i reoli ei weithlu'n gyffredinol ac, yn benodol, gwobrwyo a chydnabod a oedd yn un o bum blaenoriaeth strategol Strategaeth y Bobl 2016-19.
Yr adrannau oedd yn destun gwelliant yn ystod y flwyddyn oedd:
- Adran 6 - roedd y Llywodraeth ers peth amser wedi bod yn cynllunio i osod cap ar daliadau gadael y Sector Cyhoeddus o £95,000 a phroses adfer o ran taliadau gadael y Prif Weithredwr lle'r oedd amodau penodol yn weithredol. Byddai unrhyw newidiadau yn cael eu heffeithio gan Ddeddf Menter 2016. Roedd y Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymreig i ‘lacio’ unrhyw reoliadau a wnaed.Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad roedd disgwyl ymgynghoriad ar reoliadau drafft a fyddai wedyn yn rhoi unrhyw bwerau i Weinidogion Cymreig i benderfynu'r ymagwedd yng Nghymru; ac
- Adran 11 – daethpwyd i un cytundeb ar bolisi tâl newydd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2019/20, a nodi’r Archwiliad Tâl Cyfartal diweddaraf.