Mater - penderfyniadau

Flintshire Public Services Board: Well-being Plan for Flintshire 2017-2023 - Mid Year Review

20/02/2019 - Flintshire Public Services Board: Well-being Plan for Flintshire 2017-2023 - Mid Year Review

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Cynllun Lles Sir y Fflint 2017-2023 gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a oedd yn rhoi trosolwg o waith y Bwrdd ar ôl mabwysiadu'r Cynllun Lles ym mis Ebrill 2018.

 

                        Roedd yr adroddiad yn dangos bod cynnydd da wedi’i wneud o ran cyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Lles a bod gwaith partneriaeth ar draws y sefydliadau’n parhau’n gryf.

 

                        Pan gyhoeddwyd y Cynllun ym mis Mai 2018, roedd pum maes blaenoriaeth iddo, sef:

 

·         Diogelwch Cymunedol;

·         Yr Economi a Sgiliau;

·         Yr Amgylchedd;

·         Byw yn Iach ac Annibynnol; a

·         Cymunedau Gwydn.

 

Ar gyfer eleni, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi penderfynu canolbwyntio ar bedair o'r pum blaenoriaeth y cytunwyd arnynt gan roi blaenoriaeth yr Economi a Sgiliau o'r neilltu wrth ddisgwyl am gyfeiriad rhanbarthol mwy eglur ynghylch y Fargen Dwf a Chynllunio Economaidd Rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru.  Byddai’r thema’n cael ei hadnewyddu yng nghyfnod cynllunio blynyddol nesaf y BGC.

 

Croesawai’r Cynghorydd Shotton yr adroddiad cadarnhaol a oedd yn canolbwyntio ar werthoedd cymdeithasol a chydweithio.  Soniodd fod y Cynghorydd Paul Johnson, yn un o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, wedi talu teyrnged i'r gwaith a wnaed yn Holway ynghlwm â datblygu cymunedol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Sicrhau’r Cabinet yngl?n â lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn.