Mater - penderfyniadau

School Transport - Concessionary Spare Seats

20/02/2019 - School Transport - Concessionary Spare Seats

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Cludiant i'r Ysgol – Seddi Gwag Rhatach a oedd yn ystyried costau'r tocynnau teithio rhatach ar gyfer blwyddyn ysgol 2019/20.

 

            Cyflwynwyd adroddiadau i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a'r Cabinet fis Gorffennaf 2018 ac yn dilyn hynny fe gymeradwyodd y Cabinet fabwysiadu Dewis 2 – £300 y flwyddyn neu £100 y tymor, fel y strwythur prisiau ar gyfer tocyn bysiau rhatach ar gyfer 2018/19, a chynnal adolygiad.  Roedd y gyfradd hon yn dal yn llai na 50% o gost lawn darparu seddi rhatach a oedd yn creu pwysau ariannol ar yr Awdurdod.  Nod y Cyngor oedd creu cymaint â phosib' o refeniw ac adennill costau'n llawn lle bo modd.  Nid oedd effaith y cynnydd ar gost seddi rhatach wedi cael effaith niweidiol ar y niferoedd a oedd yn gofyn am seddi rhatach, fodd bynnag, roedd nifer y disgyblion a oedd yn prynu'r seddi hynny'n is nag erioed.  Byddai’r effaith fwyaf ar y rhai a fyddai’n symud i’r bysiau ysgol o’r gwasanaeth bysiau cyhoeddus, pan fyddai'r cymorthdaliadau ar gyfer y llwybrau hynny’n dod i ben.  Byddai’r disgyblion hynny’n wynebu cost uwch o docynnau teithio rhatach; roedd yn bwysig nodi eu bod yn talu ar y gwasanaeth cyhoeddus a bod y pris a argymhellir ar gyfer tocynnau rhatach yn cynrychioli gwerth rhesymol, wrth ei ystyried ochr yn ochr â phrisiau cyfredol ar gyfer teithiau i'r ysgol ar wasanaethau bysiau cyhoeddus.  Roedd y dewisiadau ar gyfer tocynnau rhatach yn y dyfodol i’w gweld yn atodiad yr adroddiad.    Er mai’r nod hirdymor fyddai adennill costau’r gwasanaeth yn llawn, teimlid y byddai’n annheg codi’r prisiau i’r lefel honno dros gyfnod mor fyr ac felly ni argymhellid dewisiadau 1 a 3 ar yr adeg hon.  Roedd Dewis 2 – £450 y flwyddyn neu £150 y tymor yn cynnig cydbwysedd rhwng adennill costau'n llawn a fforddiadwyedd y cynllun i rieni, yn enwedig rhai a oedd â nifer o blant yn teithio i'r ysgol ar y gwasanaethau hynny ac felly fe gafodd ei argymell ar gyfer blwyddyn ysgol 2019/20.  Byddai'r tâl yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2019 ymlaen a byddai pris seddi rhatach, yn y dyfodol, yn rhan o'r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.

 

            Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts fod y ffurflen derbyniadau i ysgolion wedi'i newid i gynnwys 'blwch ticio' i rieni ddangos eu bod yn deall y polisi trafnidiaeth a’r trefniadau.  Dywedodd fod y polisi wedi bod yn hael yn y blynyddoedd diwethaf a nod yr adran addysg oedd i'r holl ysgolion berfformio i'r safon orau bosib' a dylai rhieni ddewis yr ysgol agosaf.  Pe baent yn bodloni’r meini prawf gofynnol, byddai cludiant yn cael ei ddarparu.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ar ragdybiaethau refeniw o’r amryw ddewisiadau ar gyfer prisiau tocynnau rhatach;

 

 (b)      Cymeradwyo Dewis 2 – £450 y flwyddyn (£150 y tymor) fel y pris a ffefrir ar gyfer seddi rhatach yn 2019/20.