Mater - penderfyniadau

Discretionary Transport Policy Review: Post 16 College & Schools Transport and Benefits Entitlement

20/02/2019 - Discretionary Transport Policy Review: Post 16 College & Schools Transport and Benefits Entitlement

            Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad yr Adolygiad Polisi Cludiant yn ôl Disgresiwn: Cludiant i’r Ysgol a’r Coleg Ôl-16 a Hawl i Fudd-daliadau a oedd yn amlinellu’r ddau faes disgresiwn ac ystod lawn o ddewisiadau i'w hystyried i sicrhau proses ymgynghori agored a thryloyw.

 

            Pwysleisiodd nad oedd angen unrhyw benderfyniad heddiw ac roedd ystod o ddewisiadau’n cael eu cynnig er mwyn cychwyn proses ymgynghori ffurfiol.  Rhoddodd sicrwydd na phenderfynwyd ar unrhyw un o'r dewisiadau ymlaen llaw.

 

            Byddai ymgynghoriad â’r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys y rhai hynny y bydd y newid arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai’r holl fudd-ddeiliaid yn cael eu hannog i ymateb ac roedd partneriaid allweddol wedi cael gwybod bod ymgynghoriad yn cael ei argymell i’r Cabinet.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig i fudd-ddeiliaid gymryd rhan adeiladol yn yr ymarfer ymgynghori.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd yr Awdurdod mewn perygl o her drwy adolygiad barnwrol gan nad oedd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ystod o ddewisiadau ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yng ngwanwyn 2019 ar feysydd y polisi cludiant i'r ysgol yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth ôl-16 a hawl i fudd-daliadau.