Mater - penderfyniadau
Audit Committee Terms of Reference and Charter
27/02/2019 - Update Article 7 of the Constitution - Audit Committee Terms of Reference and Charter
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Erthygl 7 Diweddaraf o’r Cyfansoddiad – Cylch Gorchwyl ac adroddiad Siarter y Pwyllgor Archwilio sydd yn cynnwys yr arfer orau.
Mae Siarter y Pwyllgor Archwilio wedi’i ddatblygu i ddogfennu rôl y Pwyllgor Archwilio o fewn Fframwaith Llywodraethu’r Cyngor. Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio, a’r newidiadau arfaethedig yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 21 Tachwedd a gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad ar 29 Tachwedd yn ddarostyngedig i adolygiad o gyfansoddiad y Pwyllgor gan aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn eu cyfarfod nesaf.
Fel Cadeirydd o’r Pwyllgor Archwilio fe gynigodd y Cynghorydd Helen Brown yr argymhelliad.
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom pe bai modd cynyddu nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Archwilio i 11 er mwyn cael cynrychiolaeth fwy teg. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai hynny’n achos i’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai. Awgrymodd y Cynghorydd Brown y gellir ei drafod mewn Gweithgor i Gadeiryddion y Pwyllgor Archwilio a phob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau i Erthygl 7 fel y nodir yn atodiadau A a C yn cael eu cymeradwyo.