Mater - penderfyniadau

Public Convenience Strategy

25/06/2019 - Local Toilet Strategy

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol y Cyngor yn dilyn y cyfnod ymgynghori.  Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod yr ymgynghoriad statudol ar gyfer y Strategaeth Toiledau Lleol arfaethedig yn agored ers 4 Chwefror 2019 gyda’r dyddiad cau ar gyfer adborth ar y strategaeth ddrafft yn 26 Ebrill 2019.  Hyd yma roedd yr ymgynghoriad wedi derbyn 195 o ymatebion ac roedd copi o’r Strategaeth ddrafft ynghlwm i’r adroddiad.    Roedd y strategaeth arfaethedig yn cynnwys cynllun gweithredu 12 pwynt ar gyfer y ddwy flynedd a gofynnwyd i'r Pwyllgor ganolbwyntio ar bump maes penodol, fel y manylwyd yn yr adroddiad oedd yn sail i'r strategaeth.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at dudalen 44 o’r adroddiad a’r sgôr asesiad o anghenion i Shotton a gofynnwyd pa gamau a gymerir i fynd i’r afael â’r angen am ddarpariaeth toiledau yn Shotton.  Eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod Shotton wedi’i nodi fel ardal oedd angen cyfleusterau toiledau gan nad oedd yna unrhyw gyfleusterau ymroddedig presennol yn cael eu darparu ac nid oedd yna gyfleoedd i ddefnyddio darpariaeth toiledau yn adeiladau'r Cyngor fel llyfrgelloedd, canolfannau cyswllt na chanolfannau hamdden. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin nad oedd y toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon yn agored ar benwythnos a dywedodd ei fod o blaid trefniadau amgen oedd yn dibynnu ar ymgysylltu â busnesau lleol i ddarparu cyfleusterau toiledau.  Dywedodd oni bai bod yna gymhelliad ariannol llawer gwell gan Lywodraeth Cymru roedd yn annhebygol y byddai busnesau lleol yn ystyried y cynnig a wnaed i fod yn un buddiol.    Siaradodd am anghenion pobl h?n, pobl â phroblemau symudedd ac iechyd a phlant bach, a dywedodd nad oedd bob amser yn ymarferol cael mynediad i gyfleusterau presennol a ddarperir yn adeiladau’r Cyngor.    Siaradodd am yr angen i ddarparu toiledau hygyrch i’r cyhoedd o fewn canol trefi i ddiwallu anghenion pobl sy’n ymweld â’u stryd fawr lleol i siopa. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog y bu ymateb gwael gan fusnesau lleol yn gyffredinol fel modd o gynyddu darpariaeth cyfleusterau ychwanegol yn y gymuned ac felly roedd angen ystyried darpariaeth amgen. 

 

Roedd y Cynghorydd David Evans yn cynnig yr argymhellion.  Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn eilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a gwblhawyd hyd yma a’r ymgynghoriad statudol cyhoeddus parhaus ar y Strategaeth Toiledau Lleol; a 

 

(b)       Bod ymatebion y Pwyllgor i’r pedwar cwestiwn yn yr adroddiad yn cael       eu defnyddio i ddatblygu’r Strategaeth Toiledau Lleol ymhellach.