Mater - penderfyniadau

Third Sector update

30/08/2019 - Third Sector update

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am adolygiad blynyddol o weithgarwch gofal cymdeithasol a gynhaliwyd gan y Trydydd Sector yn Sir y Fflint.   Siaradodd am y trydydd sector/sector gwirfoddol oedd yn ffynnu sydd yn darparu cefnogaeth a gwasanaethau amhrisiadwy i breswylwyr Sir y Fflint a’r berthynas waith da rhwng yr Awdurdod a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. Yn yr adroddiad cafwyd trosolwg o’r ystod o wasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â manylion am y gwasanaethau diweddar a gynhaliwyd  i adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd trwy’r trydydd sector i sicrhau eu bod yn parhau i fodloni anghenion pobl yn Sir y Fflint. Cafwyd manylion yn yr adroddiad hefyd ynghylch y dull a gymerwyd i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd a chafwyd diweddariad am gyfleoedd dydd a gwaith anableddau dysgu a’r cynlluniau ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofalwyr yn 2019/20.

 

                        Fe eglurodd yr Uwch-reolwr, Diogelu a Chomisiynu fod Sir y Fflint wedi meithrin perthynas waith cryf gyda phartneriaid trydydd sector ac wedi parhau i fuddsoddi yn y sector drwy gomisiynu lle y bo’n briodol, i gyflwyno gwasanaethau yn y gymuned gan eu bod yn aml yn y sefyllfa orau i ymgysylltu a chefnogi unigolion a’u gofalwyr.    Fe soniodd am y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad yngl?n a  gwaith Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Gwasanaethau Gofalwyr, Gwasanaethau  Anableddau, Eiriolaeth Oedolion, Eiriolaeth Plant, Partneriaeth Strategol Gweithredu dros Blant, Un Pwynt Mynediad ac Iechyd Meddwl.

 

                        Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cafwyd rhagor o fanylion am Un Pwynt Mynediad. 

 

                        Fe soniodd y Cynghorydd Veronica Gay am Wasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-Ddwyrain Cymru (GOGDdC).   Eglurodd yr Uwch-reolwr, Diogelu a Chomisiynu fod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi cyflwyno ystod o wasanaethau cefnogaeth ar gyfer gofalwyr mewnol a’r rhai a gomisiynwyd trwy sefydliadau trydydd sector allanol.  Fe soniodd am y gwaith hynod o werthfawr oedd yn cael ei ddarparu gan GOGDdC i gefnogi gofalwyr, unigolion a theuluoedd, a dywedodd fod GOGDdC yn gweithio mewn perthynas agos gyda’r Awdurdod i gyflwyno rhai o’r prif wasanaethau sydd eu hangen o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. 

 

                        Siaradodd y Cynghorydd Martin White i gefnogi'r gwaith gwerthfawr oedd yn cael ei ddarparu gan ofal cymdeithasol y trydydd sector ar gyfer y boblogaeth leol ac awgrymodd bod y Cadeirydd yn anfon llythyr diolch i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint ar ran y Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi gweithgareddau gofal cymdeithasol sy’n cael eu darparu yn y trydydd sector yn Sir y Fflint; a

 

 (b)      Diolch i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint am ei rôl.