Mater - penderfyniadau
Gambling Policy Renewal
18/03/2019 - Statement of Gambling Policy Renewal
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, cyflwynodd y Cynghorydd Sharps yr adroddiad ar Ddatganiad Adnewyddu’r Polisi Gamblo.
Roedd disgwyl i'r Polisi newydd ddechrau ar 31 Ionawr 2019 yn unol â Deddf Gamblo 2005. Roedd ymgynghoriad wedi ei gynnal rhwng mis Hydref a Tachwedd 2018 gan gynnwys adrodd i'r Pwyllgor Trwyddedu.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Polisi Drafft yn cael ei gymeradwyo i’w fabwysiadu ar gyfer y cyfnod rhwng 31 Ionawr 2019 a 30 Ionawr 2022; a
(b) Fod unrhyw fân newidiadau a wneir yn ystod oes y polisi yn cael eu dirprwyo i’r Pwyllgor Trwyddedu.