Mater - penderfyniadau

Housing Rent Income

10/01/2019 - Housing Rent Income

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad diweddaru ar gasgliad incwm rhent a’r effaith ariannol ar ôl-ddyledion rhent o fewn y Cyfrif Refeniw Tai o ganlyniad i ddiwygiadau lles dan arweiniad Llywodraeth y DU, yn enwedig cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol o fis Ebrill 2017.

 

Rhoddodd y Rheolwr Refeniw gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Golwg ar gyd-destun ehangach y diwygiad lles

·         Archwilio’r data yn bellach

·         Edrych ar faterion llif arian

·         Nodi’r sefyllfa bresennol

·         Llunio’r ffordd ymlaen – rheoli’r risgiau

 

Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at nifer o benawdau allweddol cenedlaethol a oedd yn tynnu sylw at effaith Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent.  Roedd cymhariaeth o ffigyrau diwedd blwyddyn yn dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dechrau lleihau yn 2016/17 cyn cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ac wrth i’r arenillion rhent gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, roedd ôl-ddyledion rhent hefyd yn dueddol o gynyddu.  Er bod y sefyllfa hon yn cael ei rheoli, roedd casglu rhent yn parhau i fod yn her sylweddol.  Er mwyn dangos effaith Credyd Cynhwysol ar sefyllfa’r llif arian, rhoddwyd enghraifft o sut y gallai ôl-ddyledion rhent waethygu erbyn wythnos 8 ac ar y pwynt hwnnw gallai’r Cyngor wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau am daliadau a reolir. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys proses gymhleth ac roedd oedi’n debygol.

 

Roedd ystod o fesurau wedi’u mabwysiadu i gefnogi tenantiaid, yn benodol tenantiaid diamddiffyn, i reoli’r diwygiadau a mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent.  Roedd dull mwy cadarn ar waith i ymgysylltu â thenantiaid yn gynt er mwyn ceisio deall pam nad oeddent yn talu a’u hannog i reoli eu harian er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu.  Roedd adnoddau ychwanegol ar y Tîm Ymyrraeth Tai wedi helpu 362 o denantiaid i sicrhau bod eu hôl-ddyledion yn gyfredol.  Byddai buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data newydd, a ddefnyddir yn llwyddiannus ar hyn o bryd gan ddarparwyr tai eraill, o gymorth i ragweld achosion risg yn well. 

 

Sicrhaodd y Cynghorydd Attridge bawb o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r cymorth hwn i denantiaid sydd wir angen help, ond nid oedd y Cyngor am gynnig ‘llwybr cyflym’ i’r broses adennill i’r unigolion hynny a oedd mewn dyled ond yn gwrthod ymgysylltu.  Atgoffodd bawb fod lefelau casgliadau rhent o fudd i’r Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn ei dro o gymorth i adeiladu tai newydd.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Rheolwr Refeniw eglurhad o ran y tîm swyddogion a oedd yn ymdrin ag ôl-ddyledion rhent ac adennill rhai ôl-ddyledion drwy daliadau a reolir dros amser.  Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ddilynol ar nifer y tenantiaid newydd (yn ystod y 12-18 mis cyntaf o’u tenantiaethau) a oedd mewn dyled.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog bawb o’r gwiriadau a wnaed gan y Tîm Tai wrth ddyrannu eiddo a oedd o gymorth i ganfod tenantiaethau cynaliadwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Cymorth i Gwsmeriaid) fod gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar landlordiaid preifat.  Roedd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd gan ei thîm i ymgysylltu â thenantiaid yn ystod y camau cynnar o gymorth i unigolion reoli eu tenantiaethau.

 

Yn dilyn y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Hardcastle, dywedodd y Rheolwr Refeniw fod y Cyngor wedi gwneud cais am daliadau a reolir ar gyfer oddeutu 71 o achosion a bod y ffigwr hwn yn codi.  Cytunodd y Cynghorydd Attridge y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r awgrym o sefydlu Gr?p Gorchwyl i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent.

 

Yn ystod y drafodaeth, siaradodd y swyddogion am ddyletswydd y Cyngor i atal digartrefedd a rhannu arferion da rhwng awdurdodau cyfagos.

 

Dosbarthwyd gwybodaeth am lefelau band ôl-ddyledion presennol gyda’r gwerthoedd priodol. Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Wisinger ar ymdrin â thenantiaid sydd wedi gwrthod cymorth, pwysleisiodd y Cynghorydd Attridge y dull o oddef dim. Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod gan fod achos gefndir ac fe allai gynnwys aelwyd â phroblemau cymhleth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies a fyddai modd i sleidiau’r cyflwyniad gael eu rhannu â’r holl Aelodau.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Banks y dylid ceisio taliadau misol yn hytrach nac wythnosol gan yr unigolion hynny sy’n derbyn Credyd Cynhwysol er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu.  Nododd y Swyddogion ei awgrym i newid enw’r tîm i’r Tîm Ymyrraeth Tai.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran ôl-ddyledion rhent yn 2018-19 yng nghyd-destun rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ymyriadau a’r mesurau newydd a gymerir i wneud y mwyaf o incwm rhent ond sydd hefyd yn cefnogi tenantiaid i gynnal  tenantiaethau cynaliadwy; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r camau cadarn sydd yn angenrheidiol i adennill ôl-ddyledion gan denantiaid sydd, er gwaethaf yr holl ymyriadau, yn gwneud prin ddim ymdrech i dalu.